Atgoffa ceidwaid defaid i roi gwybod am symudiadau i'w daliadau
Mae Tîm Iechyd Anifeiliaid Cyngor Sir Powys yn atgoffa ceidwaid mai cyfrifoldeb y daliad cyrchfan yw adrodd am y symudiadau hyn a dylid ei gwblhau o fewn tridiau i'r symudiad ddigwydd.
Rhaid i geidwaid gofnodi'r hyn sy'n cyrraedd yn eu cofrestr praidd a rhoi gwybod am y symudiad i EID Cymru, naill ai arlein neu ar y ffurflen bapur briodol.
Lle mae'r safle ymadael, megis marchnad da byw, eisoes wedi cynhyrchu symudiad i'w daliad, dylai ceidwaid fewngofnodi i'w cyfrif porth EID Cymru a 'derbyn' y symudiad.
Dywedodd y Cynghorydd Richard Church, Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddio: "Mae cofnodi symudiadau da byw yn gywir ac yn gyfredol yn bwysig at ddibenion Diogelwch Bwyd a rheoli Clefydau Anifeiliaid. Rydym yn annog pob ceidwad da byw i sicrhau eu bod yn adrodd eu symudiadau da byw yn gywir yn unol â gofynion deddfwriaethol."
Gall ceidwaid heb fynediad i'r porth arlein roi gwybod am symudiadau drwy gwblhau'r Ffurflen Adroddiad Symud Defaid (AMLS1) yn llawn a'i chyflwyno i EID Cymru.
Mae'r cyngor yn atgoffa ceidwaid nad yw diffyg mynediad i'r porth yn dileu eu cyfrifoldeb i roi gwybod am symudiadau defaid i'w daliad. Dylai'r rhai heb fynediad ddefnyddio'r llwybr adrodd ar bapur neu gysylltu ag EID Cymru yn uniongyrchol am gyngor.
Am ragor o gyngor, cysylltwch â:
EID Cymru: 01970 636959 neu contact@eidcymru.org
Tîm Iechyd Anifeiliaid Cyngor Sir Powys: 01597 826031