Yn cynrychioli holl wasanaethau safonau masnach ledled Cymru
Representing all trading standards services across Wales

Llwybr Diogel i Sero Net


Rydym yn rhybuddio ddefnyddwyr sy'n ceisio lleihau eu hallyriadau carbon, ynni a biliau tanwydd.  

O brofiad blaenorol, mae cymhellion newydd a galw uwch am wasanaethau yn dod â chynnydd mewn masnachwyr twyllodrus.

Bydd ymgyrch ym mis Hydref yn gweld amrywiaeth o ddigwyddiadau wedi'u hanelu at dargedu masnachwyr twyllodrus a darparu gwybodaeth a chymorth i ddefnyddwyr, sy'n fwyfwy agored i sgamiau oherwydd yr argyfwng costau byw.  

Bydd wythnos Safonau Masnach Cymru hefyd yn gweld lansio pecyn cymorth i Gymru i gefnogi gorfodi deddfwriaeth yn ymwneud â Thystysgrifau Perfformiad Ynni.  Mae treialon diweddar mewn un awdurdod lleol wedi dangos bod ymgysylltu â landlordiaid i gynyddu sgôr ynni eiddo wedi arwain at ostyngiad mewn allyriadau carbon blynyddol o 198.5 tunnell, gostyngiad mewn ynni o 178.3 kwh a gostyngiad mewn biliau tanwydd o dros £58,000 (prisiau Ebrill 2022).

Rydym yn gofyn i ddefnyddwyr sy'n gwneud cais am grantiau ar gyfer cynlluniau effeithlonrwydd ynni sicrhau eu bod yn darparu eu gwybodaeth trwy sianeli dilys - bob amser yn cymryd amser i ystyried hysbysebion cyfryngau cymdeithasol a galwadau neu negeseuon e-bost digymell. 

Byddwch yn ymwybodol y dylai contractau a lofnodir yn y cartref neu o bell gynnig cyfnod canslo cyn i'r gwaith ddechrau.  Wrth chwilio am fasnachwyr, gofynnwch i ffrindiau a theulu am argymhellion, yn hytrach na phostio ar wefannau cyfryngau cymdeithasol. 

Anogir defnyddwyr sydd wedi prynu gwres neu insiwleiddio 'gwyrdd' yn ddiweddar i rannu eu profiad drwy'r Asiantaeth Cystadleuaeth a Marchnadoedd Diogelu defnyddwyr yn y sector gwresogi ac inswleiddio gwyrdd: galwad am wybodaeth.

Rydym yn gofyn i fasnachwyr a all fod yn ansicr o hyd o'u cyfrifoldebau cyfreithiol i gysylltu â'u hawdurdod lleol, awdurdod sylfaenol neu gorff masnachu am gymorth, neu ddod o hyd i gyngor yn Home | Business Companion

Gellir clywed ein podlediad 'Holi'r Rheoleiddiwr' Diwrnod 4 yma.

Canllawiau Cydymaith Busnes: Hawliadau Gwyrdd
Canllawiau Cydymaith Busnes: Tystysgrifau Perfformiad Ynni
Canllawiau Cydymaith Busnes: Effeithlonrwydd ynni: eiddo domestig
Canllawiau Cydymaith Busnes: Gwybodaeth am y Mesur Ynni
Ymddiriedolaeth Arbed Ynni
Cod defnyddwyr ynni adnewyddadwy

Erthygl flaenorolErthygl Nesaf
Your session will expire in xx.xx. Do you wish to Continue or Log Out
Your session will expire in xx.xx
Continue or Log Out