Yn cynrychioli holl wasanaethau safonau masnach ledled Cymru
Representing all trading standards services across Wales

Beth sydd ar eich plât?


Flwyddyn ar ôl gweithredu'r gofynion Labelu Alergenau newydd ar gyfer bwydydd sydd wedi'u rhagbecynnu i'w gwerthu'n uniongyrchol ('Cyfraith Natasha'), mae awdurdodau Safonau Masnach ledled Cymru yn parhau i sicrhau cydymffurfiaeth busnesau a hyder defnyddwyr drwy gyflawni amrywiaeth o weithgareddau gorfodi.

Drwy gydol 2022, mae awdurdodau wedi bod yn darparu gweithdai a hyfforddiant un-i-un gyda busnesau lleol ac yn cydlynu rhaglenni samplu i ganfod alergenau heb eu datgan mewn bwyd.  Mae alergenau yn sail i 45% o adroddiadau gwybodaeth am fwyd a dderbyniwyd yn ystod 2022; ac mae canlyniadau samplu yn dangos cyfradd fethiant o 24%.  Mae hyn yn parhau i fod yn annerbyniol; gall y methiant i ddatgan alergenau fod yn drychinebus. 

Mae Adnodd Alergenau Bwyd Gwent Fwyaf, a ariennir gan TSW a'r Asiantaeth Safonau Bwyd, bellach yn darparu hyfforddiant mewn tair ar ddeg o ieithoedd, a chaiff ei gefnogi a'i gynnal gan y  Sefydliad Safonau Masnach Siartredig - YouTube

Mae SMC yn argymell bod pob busnes yn manteisio ar yr adnodd rhad ac am ddim hwn ac yn cysylltu â'ch awdurdod Safonau Masnach lleol am unrhyw gymorth pellach y gallant ei gynnig.
Mae samplu diweddar wedi nodi:
cyfradd fethiant o 39% mewn rhywogaethau cig mewn cebabs; 
cyfradd fethiant o 46% ar gywirdeb y term 'fegan', gyda 43% yn cynnwys cig neu gynnyrch llaeth; 
dim methiannau dadansoddol ar gramenogion, fodd bynnag, adnabyddir bod lefelau isel iawn mewn rhai prydau tecawê na ddylai achosi unrhyw risg. 

Yn yr achosion hyn, mae swyddogion yn cynghori y dylai'r cynhwysyn alergenaidd gael ei ddatgan neu ei ddileu ar gyfer arfer gorau

Yng nghanol yr argyfwng costau byw, mae SMC yn cynnig gofal i ddefnyddwyr sy'n byw ag alergeddau.  Os ydych yn newid eich brand o fwyd, peidiwch â chymryd yn ganiataol y bydd yr un alergenau yn bresennol mewn cynhyrchion o'r un math; daliwch ati i ddarllen y labeli, gan wirio am rybuddion. 

Yn yr un modd, efallai bod busnesau yn ail-fformiwleiddio eu cynhyrchion presennol i gadw costau i lawr, felly eto, daliwch ati i ddarllen labeli'r cynhyrchion rydych chi'n eu prynu'n gyffredin, hyd yn oed os ydych chi'n meddwl eich bod chi'n gwybod yr alergenau sydd ynddynt. 

Yn olaf, tanysgrifiwch i wefannau yr Asiantaeth Safonau Bwyd ac Allergy UK am wybodaeth am alergenau a rhybuddion am gynnyrch sy'n cael eu had-alw oherwydd alergenau heb eu datgan.

Cliciwch yma i wrando ar ein podlediad Diwrnod 3.

Adnodd Alergen Bwyd mewn gwahanol ieithoedd:
Adnoddau a hyfforddiant yr Asiantaeth Safonau Bwyd:
Gwefan Business Companion ar gyfer adnoddau cyngor busnes
Erthygl flaenorolErthygl Nesaf
Your session will expire in xx.xx. Do you wish to Continue or Log Out
Your session will expire in xx.xx
Continue or Log Out