Yn cynrychioli holl wasanaethau safonau masnach ledled Cymru
Representing all trading standards services across Wales

Byddwch yn wyliadwrus – sgam Gwiriad Diogelwch Rhag Tân yn y Cartref


Mae Safonau Masnach Powys yn dymuno atgoffa trigolion i aros yn effro am bob sgam, yn enwedig y sgam diweddaraf i ddod i'n sylw.

Galwad ffôn yw hon gan bobl sy’n honni eu bod o’r Gwasanaeth Tân ac sy’n cynnig ‘Gwiriad Diogelwch Tân’ yn y Cartref. Bydd y bobl hyn yn ceisio ennill eich ymddiriedaeth a chwarae ar bryderon diogelwch er mwyn cael mynediad llawn anghyfyngedig i'ch cartref ac yna'n codi tâl gormodol arnoch am waith nad yw o reidrwydd yn angenrheidiol.

Mae’n hynod bwysig bod eich cartref yn ddiogel ac er gwaethaf y sgam diweddaraf hwn, ni fyddem am atal unrhyw un rhag cael Gwiriad Diogelwch Tân swyddogol.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn darparu Gwiriadau Diogelwch Rhag Tân yn y Cartref AM DDIM a gellir cysylltu â nhw ar 0800 169 1234 neu ewch i'w gwefan am fanylion cyswllt eraill. Os byddwch yn derbyn galwad digymell sy'n honni ei bod gan y Gwasanaeth Tân ac yn cynnig y gwasanaeth hwn, gallwch gadarnhau nad yw'n sgam drwy ffonio'r rhif uchod.
Bydd personél y Gwasanaeth Tân sy'n cynnal gwiriadau o'r fath bob amser ag adnabyddiaeth a byddant mewn iwnifform ac nid mewn dillad plaen.

Peidiwch byth ag ymddiried mewn rhif cyswllt a ddarperir gan ddieithryn er mwyn cadarnhau ei gyfreithlondeb. Dylech bob amser geisio cael rhif cyswllt yn annibynnol o waith papur swyddogol sydd eisoes yn eich meddiant o ymweliad llwyddiannus blaenorol neu o wefan swyddogol.
Yn amlach na pheidio, mae’r mathau hyn o sgamiau wedi’u targedu at y genhedlaeth hŷn. Ein cyngor ni yw ceisio cadarnhad o gyfreithlondeb y galwr bob amser cyn caniatáu mynediad iddynt i'ch cartref.

Ni fydd gan ymwelydd cyfreithlon unrhyw wrthwynebiad i chi gau'r drws a'i adael y tu allan tra byddwch yn cadarnhau pwy ydyw.

Os ydych yn teimlo dan bwysau neu’n bryderus ar ôl ymweliad gan unrhyw un wrth eich drws, cysylltwch â’r heddlu ar 101. Os daw’n fater brys a’ch bod yn teimlo dan fygythiad ffoniwch 999.
Os yw'n bosibl, sicrhewch fod perthynas neu ffrind/cymydog y gallwch ymddiried ynddo yn bresennol bob amser pan fydd unrhyw ymweliad wedi'i drefnu.

Mae Safonau Masnach Powys yn atgoffa pobl i fod yn ymwybodol o bob sgam ac i rannu'r wybodaeth uchod gyda ffrindiau a theulu.

 
Erthygl flaenorolErthygl Nesaf
.
Your session will expire in xx.xx. Do you wish to Continue or Log Out
Your session will expire in xx.xx
Continue or Log Out