Gorchymyn i Fusnes o Gaerdydd Dalu Dros £22,000 am Werthu Fêps a Thybaco Anghyfreithlon
Cafodd Aydin Ltd, sy'n masnachu fel Mini Mart Store, ar Rodfa Countisbury, Llanrhymni, ei erlyn ar ôl i swyddogion Safonau Masnach ddatgelu gwerthu cynhyrchion fêpio anghyfreithlon a thybaco ffug o'r siop ar sawl achlysur.
Datgelodd yr ymchwiliadau fod y siop yn gwerthu fêps gyda meintiau tanc sydd uwch law’r terfynau cyfreithiol, yn ogystal â chynhyrchion tybaco ffug ac wedi’u labelu'n anghywir.
Plediodd Aydin Ltd a'i gyfarwyddwr, Rostam Ahmed, yn euog i gyfanswm o 16 trosedd yn ymwneud â gwerthu fêps a thybaco anghyfreithlon.
Cafodd yr holl gynnyrch a atafaelwyd eu fforffedu gan y llys a byddant nawr yn cael eu dinistrio. Roedd y busnes eisoes wedi derbyn gorchymyn cau o dan Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 oherwydd graddfa a difrifoldeb y drosedd.
Dwedodd y Cynghorydd Ed Stubbs, yr Aelod Cabinet sy'n gyfrifol am Wasanaethau Rheoliadol a Rennir yng Nghyngor Caerdydd:
"Mae gwerthu tybaco a fêps anghyfreithlon yn peri pryder mawr. Mae'n effeithio ar iechyd trigolion Caerdydd ac yn niweidio'r economi ehangach.
"Mae busnesau cyfreithlon yn cael eu heffeithio wrth i gwsmeriaid brynu cynhyrchion anghyfreithlon yn lle hynny, ac mae argaeledd y cynhyrchion hyn yn dileu cymhellion i bobl roi'r gorau i ysmygu.
"Bydd camau cadarn yn cael eu cymryd gan Safonau Masnach yn erbyn busnesau sy'n diystyru'r gyfraith yn barhaus, ac mae'n galonogol gweld bod dedfrydu'r llys yn adlewyrchu difrifoldeb y gweithgaredd anghyfreithlon hwn."
Yn Llys Ynadon Caerdydd cafodd Aydin Ltd ddirwy o £16,000, gorchymyn i dalu £4,600 mewn costau, a gordal dioddefwr o £2,000.
Derbyniodd Rostam Ahmed orchymyn cymunedol 12 mis, gan gynnwys 10 diwrnod o weithgaredd adsefydlu, ynghyd â dirwy o £500, £100 mewn costau, a gordal dioddefwr o £114.
Bydd y Gwasanaethau Rheoleiddio a Rennir yn parhau i weithio gydag asiantaethau partner i fynd i'r afael â gwerthu tybaco a chynhyrchion fêpio anghyfreithlon, amddiffyn defnyddwyr, a chefnogi busnesau cyfreithlon sy'n gweithredu o fewn y gyfraith.