Yn cynrychioli holl wasanaethau safonau masnach ledled Cymru
Representing all trading standards services across Wales

Parhau i gau siopau fêps anghyfreithlon yn Abertawe


Yn ddiweddar, mae Cyngor Abertawe wedi cymryd camau yn erbyn dwy siop fêps yn y ddinas, gan wneud cais llwyddiannus i Lys Ynadon Abertawe i'w cau am dri mis.

Gorchmynnwyd i siop World of Vapes yn St Teilos Street, Pontarddulais, gau am y cyfnod estynedig ar ôl i dîm Safonau Masnach Cyngor Abertawe ymweld â'r siop yn gynharach ym mis Mehefin a darganfod tybaco a fêps ffug mewn uned storio gudd.

Cafodd siop Snoop Vapes ar y Stryd Fawr yng nghanol y ddinas ei chau hefyd ar ôl gwerthu tybaco ffug dro ar ôl tro i swyddogion safonau masnach cudd dros gyfnod o ddau fis.

Mae'r tîm Safonau Masnach bellach wedi cadarnhau y bydd rhagor o siopau'n cael eu targedu a'u cau yn dilyn gwybodaeth barhaus a phryniadau prawf o siopau.

Meddai Rhys Harries, Arweinydd Tîm Safonau Masnach Cyngor Abertawe, "Rydym yn ymrwymedig i fynd i'r afael â gwerthiant tybaco a fêps anghyfreithlon yn llawer o'r siopau hyn, y mae'r nwyddau hyn yn aml yn cael eu gwerthu i blant.

"Mae gennym bwerau i gau siopau ar ôl i ni ymweld â nhw ond mae angen cymorth y llysoedd arnom i ymestyn y cyfnod cai dros dro i dri mis. Drwy wneud hyn, rydym yn gobeithio y bydd yn tarfu ar fasnach ac yn atal y nwyddau niweidiol hyn rhag cael eu gwerthu i blant iau.

"Ond mae rhagor i ddod. Rydym wedi parhau i gasglu gwybodaeth a bydd rhagor o siopau'n cael eu cau eleni."

Mae'r ymgyrch barhaus i geisio atal gwerthiannau fêps anghyfreithlon yn dilyn ymgyrch ehangach ym mis Hydref 2025 pan ymunodd y tîm Safonau Masnach â Heddlu De Cymru i gynnal cyrchoedd ar siopau ledled Abertawe, lle'r oedd gwybodaeth wedi dangos bod y siopau yn gwerthu nwyddau anghyfreithlon.

Caewyd cyfanswm o naw siop yn ystod y cyrchoedd ym mis Hydref ac atafaelwyd mwy na £70,000 o dybaco a fêps anghyfreithlon.

Meddai Andrew Williams, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Ddatblygu, "Mae'r cyngor hwn yn cymryd gwerthiant fêps anghyfreithlon a thybaco ffug yn Abertawe o ddifrif.

"Mae ein tîm Safonau Masnach wedi rhoi blaenoriaeth i'r mater hwn ac wedi gallu casglu llawer iawn o gudd-wybodaeth o ran pa siopau yn y ddinas sydd wedi bod yn gwerthu nwyddau anghyfreithlon yn flaenorol i gwsmeriaid, gan gynnwys plant.

"Mae'r ymgyrch ddiweddaraf wedi bod yn llwyddiannus iawn yn ein hymdrechion i atal y math hwn o fasnach ac rydym yn gobeithio y bydd yn anfon neges gref iawn at fusnesau eraill yn y ddinas, gan bwysleisio bod ganddyn nhw ddyletswydd i sicrhau eu bod nhw'n masnachu'n gyfreithlon ac nad ydyn nhw'n peryglu defnyddwyr."

Erthygl flaenorol
Your session will expire in xx.xx. Do you wish to Continue or Log Out
Your session will expire in xx.xx
Continue or Log Out