Yn cynrychioli holl wasanaethau safonau masnach ledled Cymru
Representing all trading standards services across Wales

Mae Wythnos Safonau Masnach Cymru yma!


Ddydd Llun, 24ain Hydref - Gwerthu o dan oed

Mae'r wythnos yn dechrau gyda ffocws ar werthiannau â chyfyngiadau oedran. Mae deddfwriaeth yn ymwneud â gwerthiannau â chyfyngiadau oedran yn bodoli i amddiffyn pobl ifanc rhag mynediad at gynhyrchion a allai fod yn beryglus iddynt, boed yn alcohol, cynhyrchion tybaco gan gynnwys cynhyrchion anwedd, cyllyll neu fynediad at beiriannau gamblo.

Bydd gweithgarwch penodol yn ymwneud a’r ymgyrch ‘NO IFS. NO BUTTS.’ sy'n darparu llwybr diogel i roi gwybod am werthiannau tybaco anghyfreithlon /  Byddwch hefyd yn cael clywed am ganlyniadau prosiect a gynhaliwyd yn ymwneud â chynhyrchion anweddu sydd wedi dod yn olygfa mor gyfarwydd wrth i bobl geisio diddyfnu eu hunain oddi ar gynhyrchion tybaco.

Rydym yn trafod gwerthiannau â chyfyngiadau oedran yn ein podlediad 'Holi'r Rheoleiddiwr (Ask the Regulator)', y gallwch wrando arno yma.

I gael rhagor o wybodaeth am y maes hwn o'n gwaith, cliciwch yma.

Erthygl Nesaf
Your session will expire in xx.xx. Do you wish to Continue or Log Out
Your session will expire in xx.xx
Continue or Log Out