|
Mae disgwyl i Andrew Eburne, 51 oed o Hill Rise, Burbage, Hinkley, gael ei ddedfrydu ym mis Mehefin yn Llys y Goron Abertawe, ar ôl iddo gael ei ddyfarnu'n euog yn ddiweddar o redeg busnes twyllodrus - Doctors on Wheels Ltd.
Roedd yr erlyniad llwyddiannus yn erbyn Mr Eburne yn dilyn ymchwiliad blwyddyn o hyd gan Safonau Masnach Cyngor Abertawe a dderbyniodd yr achos yn dilyn pryderon a godwyd gan y DVLA.
Defnyddiwyd Doctors on Wheels Ltd gan ddeiliaid trwydded HGV cyfredol, yn ogystal â'r rhai sy'n gwneud cais am drwydded HGV, i gwblhau tystysgrif feddygol D4 fel rhan o'r broses ymgeisio am drwydded HGV sy'n ofynnol gan y DVLA. Mae'r dystysgrif D4 yn pennu bod yr ymgeisydd yn feddygol ddiogel i weithredu cerbydau nwyddau trwm.
Cynhaliwyd yr archwiliadau meddygol mewn unedau teithiol mewn lleoliadau o gwmpas y DU. Gwnaed achos yn erbyn Mr Eburne ynghyd â phum diffynnydd arall a oedd yn gweithio i Doctors on Wheels Ltd. Dyfarnwyd y pump ohonynt yn ddieuog yn ystod yr un achos.
Roedd yr ymchwiliadau gan Safonau Masnach, a oedd yn cynnwys swyddogion yn cyflwyno'u hunain fel ymgeiswyr trwydded HGV, wedi datgelu pryderon mawr ynghylch y ffaith bod unigolion digymhwyster a oedd yn gweithio i Doctors on Wheels yn cymeradwyo'r dystysgrif D4.
Credir bod y cwmni wedi prosesu miloedd o dystysgrifau meddygol D4 a ddefnyddiwyd wedyn fel rhan o'r cais HGV.
Er bod Mr Eburne wedi pledio'n ddieuog i'r cyhuddiadau, fe'i dyfarnwyd yn euog gan reithgor a bydd yn dychwelyd i Abertawe ym mis Mehefin i'w ddedfrydu.
Meddai Rhys Harries, Arweinydd Tîm Safonau Masnach Cyngor Abertawe, "Rydym yn fodlon ar ganlyniad yr achos.
"Mae hwn wedi bod yn ymchwiliad hir iawn a oedd wedi mynnu cryn amser ac ymdrech gan ein swyddogion Safonau Masnach ein hunain, yn ogystal â staff y DVLA.
"Pan gododd y DVLA eu pryderon am y cwmni, roedd angen i ni edrych yn fanwl ar eu gweithrediad a chanfod a oedd tystysgrifau meddygol yn cael eu rhoi gan staff heb gymwysterau.
"Roeddem wedi gallu dangos yn y llys fod tystysgrifau meddygol D4 wedi'u cyflwyno i'r DVLA gyda'r bwriad o'u cyflwyno fel rhan o gais am drwydded HGV.
"Yn ffodus, oherwydd yr arbenigedd a ddangoswyd gan y DVLA wrth sylwi ar yr anghysondebau hyn, ynghyd â'n hymchwiliad ein hunain, llwyddom i atal hyn rhag dod yn fater llawer mwy difrifol."
|