Yn cynrychioli holl wasanaethau safonau masnach ledled Cymru
Representing all trading standards services across Wales

Cefnogi ymgyrch Crimestoppers: Mae tybaco anghyfreithlon yn ariannu troseddau cyfundrefnol


Er y gall tybaco anghyfreithlon ymddangos yn rhatach, mae’n aml yn ariannu troseddau difrifol cyfundrefnol, gan gynnwys delio cyffuriau, masnachu pobl a gwyngalchu arian. Yn aml, mae’r cynhyrchion hyn yn cael eu smyglo neu eu ffugio, eu gwerthu heb wiriadau diogelwch priodol, ac mewn ffyrdd sydd wedi’u cynllunio i osgoi cael eu canfod.

Mae’r fasnach dybaco anghyfreithlon hefyd yn niweidio cymunedau lleol. Mae’n tanseilio busnesau gonest, yn ei gwneud hi’n haws i bobl ifanc ddechrau ysmygu, ac yn targedu rhai o’r cymunedau mwyaf agored i niwed.

Mae Safonau Masnach Cymru yn gweithio’n agos gyda phartneriaid, gan gynnwys HMRC a Crimestoppers, i fynd i’r afael â chyflenwi tybaco anghyfreithlon. Fodd bynnag, mae gwybodaeth gan y gymuned yn hanfodol i adnabod y rhai sy’n gyfrifol.

Os ydych yn amau bod tybaco anghyfreithlon yn cael ei werthu yn eich ardal, gallwch roi gwybod yn ddienw i Crimestoppers drwy ffonio 0800 555 111 neu drwy ymweld â gwefan Crimestoppers: Crimestoppers-uk.org

Drwy rannu gwybodaeth, gallwch helpu i ddiogelu cymunedau ac amharu ar rwydweithiau troseddol.
 
Erthygl flaenorol
Your session will expire in xx.xx. Do you wish to Continue or Log Out
Your session will expire in xx.xx
Continue or Log Out