Yn cynrychioli holl wasanaethau safonau masnach ledled Cymru
Representing all trading standards services across Wales

Chwistrellu sylwedd heb ei drwyddedu yn ystod triniaethau cosmetig


Yn Llys Y Goron Caernarfon ar Ddydd Mercher, Mawrth 11eg, cafodd Carol Ann Edwards, 38, Bethesda ei dedfrydu i Orchymyn Cymunedol am 12 mis, cyfnod adsefydlu o 15 diwrnod, a gorchymyn i dalu dirwy o £500 yn ogystal ag iawndal o £1,000.

Roedd wedi pledio’n euog i ddau achos o Dwyll Drwy Gamgynrychiolaeth yn ystod gwrandawiad blaenorol ar y 12fed o Ionawr 2026.

Clywodd y Llys bod y ddau achwynydd wedi gweld hysbyseb ar y cyfryngau cymdeithasol, ac wedi talu am driniaeth Botox gan Edwards, a oedd yn masnachu dan yr enw ‘5 Star Aesthetics’. Fe wnaethant gwyno nad oedd y driniaeth wedi gweithio fel ag y dylai ac er eu bod wedi cael cynnig ychwaneg o sesiynau yn y pen draw, roeddent wedi cael trafferth cael ymateb ganddi.

Mae Botox yn enw masnachu cofrestredig ac yn feddyginiaeth gofrestredig y gellir ei rhagnodi dim ond yn dilyn ymgynghoriad trylwyr.

Fodd bynnag, nid oedd Ms Edwards wedi bod yn defnyddio Botox, ond sylwedd tebyg o’r enw Fraxin, sydd o radd is a heb ei drwyddedu. Er ei fod yn cael effaith debyg nid yw wedi’i drwyddedu i’w ddefnyddio yn y DU.

Rhwng mis Ebrill a Hydref 2023, derbyniodd Adran Safonau Masnachu Ynys Môn nifer o gwynion gan gwsmeriaid ynglŷn â thriniaethau a methiant ar ran perchennog y busnes i ymateb i gwynion.

Oherwydd natur y triniaethau, roedd y cwynion y tu allan i gyfundrefn drwyddedu’r adran Iechyd yr Amgylchedd gan nad yw triniaethau cosmetig anfeddygol yn cael rheoleiddio ar hyn o bryd.

Cysylltodd swyddogion Safonau Masnachu â Ms Edwards ynglŷn â’i harferion masnachu a hanes o ddarparu gwasanaeth cwsmer gwael. Yn ystod eu trafodaethau rhoddodd Ms Edwards wybod i’r swyddogion mai ‘Fraxin’ ac nid ‘Botox’ yr oedd wedi bod yn ei ddefnyddio.

Nid oedd Ms Edwards yn meddwl bod dim byd o’i le ar hynny. Hefyd, dywedodd wrth swyddogion ei bod yn nyrs dan hyfforddiant a’i bod ym mlwyddyn olaf ei chwrs. Yn nes ymlaen, cadarnhawyd nad oedd hyn yn wir.

Wrth ddedfrydu fe wnaeth y Barnwr Timothy Petts grynhoi’r achos drwy nodi fod y ddau gwsmer yn meddwl eu bod y cael triniaeth Botox ac ni fyddent wedi cytuno i’r driniaeth pe byddent yn gwybod mai Fraxin, sylwedd heb ei drwyddedu gyda sgil-effeithiau anhysbys, oedd yn cael ei ddefnyddio. Er nad oedd y golled ariannol yn fawr iawn roedd y niwed posib yn sylweddol. Fe allai pethau fod wedi mynd o chwith.

Nododd hefyd fod yr adroddiad cyn dedfrydu wedi dod i’r casgliad bod problemau iechyd meddwl wedi amharu ar ei synnwyr cyffredin ac nad oedd wedi bwriadu achosi unrhyw niwed;  ac y byddai’r iawndal yn uwch na chost y triniaethau oherwydd y straen ychwanegol a achoswyd i’r dioddefwyr.

Mae’r Cynghorydd Nicola Roberts, sy’n gyfrifol am y portffolio Gwarchod y Cyhoedd, wedi croesawu’r ddedfryd.

Ychwanegodd y Cynghorydd Roberts, “Ymgais i wneud elw a chael mantais annheg yn erbyn busnesau eraill oedd hyn drwy ddefnyddio sylwedd rhatach a heb ei drwyddedu. Yn ffodus iawn, ni chafodd y dioddefwyr unrhyw sgil effeithiau niweidiol. Cafodd ei chwsmeriaid eu camarwain yn fwriadol ac roeddent wir yn credu eu bod wedi cael triniaeth Botox, gallai hyn fod wedi amharu ar unrhyw driniaeth feddygol frys ond nid oedd hynny’n angenrheidiol, diolch byth.”

Mae Emma Jones, Rheolwr Safonau Masnachu Cyngor Sir Ynys Môn yn rhybuddio trigolion sy’n ystyried cael triniaethau cosmetig anfeddygol i fod yn wyliadwrus. Dywedodd, “Er bod y triniaethau hyn yn ymddangos fel petaent yn peri llai o risg na thriniaethau meddygol, nid oes angen unrhyw gymwysterau i roi triniaethau cosmetig anfeddygol na glynu wrth gòd ymarfer proffesiynol.”

“Yng Nghymru, mae angen trwydded ar gyfer triniaethau arbennig yn unig, megis aciwbigo, tyllu’r corff, electrolysis a thatŵio. O’r herwydd, nid yw triniaethau cosmetig anfeddygol, yn cynnwys ‘Botox’ a chynnyrch llenwi, wedi eu rheoleiddio.”

Dylai unrhyw un sy’n ystyried cael triniaeth o’r fath wneud gwaith ymchwil trwyadl a gwneud yn siŵr eu bod yn ymwybodol o’r risgiau. Rhaid cael ymgynghoriad meddygol gyda gweithiwr proffesiynol cymwysedig cyn y gellir rhagnodi cynnyrch meddyginiaethol, yn cynnwys ‘Botox’. Erbyn hyn, mae rhagnodi o bell wedi cael ei wahardd yn llwyr, sy’n golygu bod rhaid i gleientiaid gael ymgynghoriad wyneb yn wyneb cyn cael triniaeth.

Erthygl flaenorol
Your session will expire in xx.xx. Do you wish to Continue or Log Out
Your session will expire in xx.xx
Continue or Log Out