Rhybudd am Fasnachwyr Stepen Drws i Drigolion Castell-nedd Port Talbot
Daw'r rhybudd ar ôl i dîm Safonau Masnach y Cyngor gael gwybod am alwyr digroeso sy'n gweithredu ledled y sir, gan gysylltu â thrigolion yn cynnig gwneud gwaith ar eu heiddo.
Bydd gan ddefnyddwyr fwy o hawliau pan fyddant yn prynu ar stepen y drws.
Ar gyfer gwaith ar gartref trigolyn sy'n werth mwy na £42, mae'r gyfraith yn ei gwneud yn ofynnol i fasnachwyr roi hawliau canslo. Bydd hyn yn caniatáu cyfnod o 14 diwrnod ar gyfer canslo contractau.
Mae'r tîm Safonau Masnach hefyd yn annog perthnasau a chymdogion i ofalu am aelodau agored i niwed o'u cymuned y gall galwyr digroeso roi pwysau arnynt i gytuno i waith diangen ar eu heiddo.
Mae'n bwysig bod yn wyliadwrus bob amser, ond yn enwedig ar ôl y tywydd garw diweddar. Bydd masnachwyr twyllodrus yn achub ar y cyfle i fanteisio ar bobl sydd wedi dioddef yn sgil y stormydd, gan wneud gwaith diangen a chodi crocbris amdano.
Dywedodd y Cynghorydd Cen Phillips, sef Aelod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot sydd â chyfrifoldeb am Safonau Masnach a Diogelu'r Cyhoedd: “Hoffwn atgoffa trigolion i fod yn wyliadwrus rhag y busnesau hyn ac osgoi cael eu twyllo gan fasnachwr twyllodrus. Peidiwch â gadael i neb roi pwysau arnoch chi i dalu am waith yn eich cartref eich hun.
“Treuliwch amser yn ystyried yr hyn sy'n cael ei gynnig, yn casglu dyfynbrisiau eraill ac yn ymchwilio i fusnes cyn ymrwymo i gytundeb. Peidiwch â thalu'r pris llawn cyn i unrhyw waith gael ei wneud a threfnwch i dalu fesul cam am brosiectau mawr”
“Gwiriwch unrhyw honiadau o aelodaeth o sefydliadau masnach neu gynlluniau cymeradwyo, neu defnyddiwch gynllun cymeradwyo masnachwyr fel ‘Prynu Gyda Hyder’ er mwyn cyflogi masnachwr sydd wedi'i fetio.
“Hefyd, os bydd rhywun yn cysylltu â chi fel hyn, neu os byddwch chi'n cael taflenni drwy'r drws, gofynnwn i chi gysylltu â ni oherwydd gall hynny ein helpu ni i atal rhywun arall rhag cael ei dwyllo gan y masnachwyr twyllodrus hyn.”
Gall perchnogion tai a busnesau sy'n credu eu bod wedi cael eu twyllo gan y math hwn o sgam ffonio llinell gymorth Cyngor ar Bopeth ar 0808 223 1144 (Cymraeg) neu 0808 223 1133 (Saesneg).