Yn cynrychioli holl wasanaethau safonau masnach ledled Cymru
Representing all trading standards services across Wales

Cau Siop Fêps ym Mhort Talbot ar ôl Cipio Stoc Anghyfreithlon a Chyffur Dosbarth-B


Riportiwyd Mr. Vape, a leolir ar Heol yr Orsaf, am feddu ar dybaco a sigaréts ffug ac anghyfreithlon (heb dalu treth) yn ogystal â fêps anghyfreithlon a gor-fawr, gan gynnwys eu gwerthu i ieuenctid / pobl dan oedran.

Dywed Tîm Safonau Masnach Cyngor Castell-nedd Port Talbot fod cyhuddiad wedi’i ddwyn yn erbyn y fangre am werthu cyffur Dosbarth-B, ac yn ystod archwiliad o’r safle tua diwedd 2025, cipiwyd cyflenwad o ganabis ynghyd â sigaréts a thybaco anghyfreithlon.

Mewn gwrandawiad ar 8 Ionawr 2026, cymeradwyodd Barnwr Rhanbarth yn Llys Ynadon Abertawe gau am dri mis Mr. Vape, 42 Heol yr Orsaf, Port Talbot dan Adran 80 o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014. Dim ond gorchmynion cau o hyd at 3 mis a ganiateir dan ddeddfwriaeth bresennol.

Yn y gwrandawiad, rhoddodd Swyddog o Dîm Safonau Masnach Cyngor Castell-nedd Port Talbot hanes cryno am y busnes, a’r effaith y mae’r gweithgarwch anghyfreithlon hwn yn ei gael ar y gymuned leol. Dywedwyd hefyd wrth y Barnwr fod y Cyngor o’r farn na fyddai’r problemau’n dod i ben oni bai fod y siop yn cau.

Er gwaethaf cysylltu â pherchennog y busnes a’i hysbysu o fwriad y Cyngor i wneud cais am orchymyn i gau, ni fu iddo yntau fynychu’r gwrandawiad.

Daeth gwerthu a chyflenwi fêps untro (tafladwy) yn anghyfreithlon ledled y DU ar 1 Mehefin, 2025. Mae’r gwaharddiad hwn yn berthnasol i bob busnes, ar lein ac mewn siopau, waeth a yw’r fêps yn cynnwys nicotin ai peidio.

Y rhesymeg y tu ôl i’r gwaharddiad yw er mwyn mynd i’r afael ag effaith amgylcheddol fêps tafladwy, sy’n aml yn cael eu taflu’n anaddas ac sy’n cynnwys sylweddau niweidiol. Nod arall y gwaharddiad yw gwarchod plant a phobl ifanc, am y gwelir fêps tafladwy fel mwy apelgar i fêpwyr dan oedran. 

Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot dros Natur, Twristiaeth a Llesiant, y Cynghorydd Cen Phillips: 

“Gan ddefnyddio’r offer sydd ar gael iddyn nhw, mae Safonau Masnach yn gweithio’n galed i warchod y cyhoedd a’r bregus rhag gwerthiant tybaco a fêps anghyfreithlon. Mae gwaith sylweddol wedi mynd i sicrhau’r gorchmynion cau hyn, a bydd y tîm yn parhau i ddefnyddio’r adnoddau sydd ar gael iddyn nhw i ymladd yn erbyn y fasnach anghyfreithlon hon.

“Hoffwn annog unrhyw un sy’n becso am eu cymuned ac iechyd eu plant i riportio unrhyw wybodaeth sydd ganddyn nhw sy’n ymwneud â gwerthu tybaco neu fêps anghyfreithlon. “

Erthygl flaenorolErthygl Nesaf
Your session will expire in xx.xx. Do you wish to Continue or Log Out
Your session will expire in xx.xx
Continue or Log Out