Naw tunnell o fêps yn cael eu dinistrio
Cafodd mwy na 100,000 o fêps, sydd ddim yn cydymffurfio efo rheoliadau, eu mewnforio gan Ibrahim Shafi, 34, Clarence Street, Blackburn a SpeedDrop Logistics Ltd (gyda Mr Shafi yn unig gyfarwyddwr ar y cwmni) ar 11 Hydref 2023.
Mewn erlyniad a gychwynnwyd gan Gyngor Sir Ynys Môn yn Llys Ynadon yr Wyddgrug heddiw (dydd Mawrth, 13 Ionawr) plediodd Mr Shafi a SpeedDrop Logistics Ltd yn euog i dri chyhuddiad dan Reoliadau Tybaco a Chynhyrchion Cysylltiedig 2016 mewn perthynas â mewnforio 109,600 o fêps Hyati Pro 4000+ unigol, sy’n gyfanswm o 9000kg (9T), drwy Borthladd Caergybi.
Roedd maint tanciau’r fêps bum gwaith yn fwy na’r uchafswm a ganiateir, ac nad oeddynt yn cynnwys pamffled diogelwch angenrheidiol, manylion cyswllt perthnasol na’r marc rhybudd iechyd angenrheidiol yn gorchuddio traean o’r deunydd pacio.
Dywedodd yr erlynydd Laura Knightly wrth y llys fod Safonau Masnach Ynys Môn wedi derbyn galwad ar 11 Hydref 2023 gan gydweithwyr yn Llu Ffiniau’r DU i archwilio cynhwysydd.
Uned oergell oedd y cynhwysydd, a datganwyd ar y llong mai bwyd darfodus oedd y cynnwys. Wrth archwilio’r cynnwys y tro cyntaf sylweddolwyd mai 109,600 o fêps Hyati Pro 4000+ oedd yn yr uned, gyda phob un wedi’i labelu fel 10 ml. Roedd y nodyn anfon yn dangos bod atomeiddwyr angen cael eu danfon i Speed Drop Global Ltd yn Blackburn.
Wrth gysylltu â Chyngor Ynys Môn, dywedodd Mr Shafi mai European Distribution NW Ltd oedd yn berchen ar y nwyddau, ac mai dim ond eu cludo a’u danfon i SpeedDrop Global Ltd oedd SpeedDrop Logistics, gyda Mr Shafi yn unig gyfarwyddwr ar y ddau gwmni.
Er i Mr Shafi ddweud fod y nwyddau’n cael eu mewnforio er mwyn eu hallforio eto, nid oedd y cytundeb gyda’r cwsmer yn Foroco wedi ei gadarnhau ar yr adeg y cawsant eu mewnforio.
Roedd Mr Shafi a'r cwmni eisoes wedi gwadu'r troseddau, ond newidiwyd eu pledion i euog fore'r achos llys.
Dywedodd Ms Knightly wrth y llys bod Swyddog Safonau Masnach o Sefton yn fodlon tystio ei fod wedi siarad â Mr Shafi yn flaenorol mewn perthynas ag ymgais i fewnforio fêps yr un fath drwy Lerpwl, a gafodd eu hanfon yn ôl i Iwerddon, gyda Mr Shafi yn derbyn cyfarwyddyd i ofyn am gyngor gan ei adran Safonau Masnach leol.
Roedd rhagor o dystiolaeth yn dangos bod swyddogion yr heddlu wedi stopio faniau oedd yn cario fêps (mwy nag arfer) oedd yn fod i gael eu danfon i SpeedDrop Blackburn, ar ôl cael eu mewnforio drwy Loch Ryan yn yr Alban.
Ar 24 Hydref, cyflwynodd Mr Shafi gais i ddileu’r cwmni European Distribution NW Ltd, a gafodd ei dynnu’n ôl fis Mawrth 2024. Awgrymwyd mai’r rheswm posibl dros hyn oedd oherwydd bod cofnodion banc y cwmni'n enwi manwerthwyr yn y DU oedd yn ymwneud â fêps oedd ddim yn cydymffurfio efo rheoliadau.
Dywedodd Mr Muthupandi Ganesan, oedd yn cynrychioli'r amddiffyniad, wrth y llys fod Mr Shafi yn ddyn teulu, oedd yn ennill yr incwm uchaf ac yn byw gyda'i rieni, ei wraig a'i bump o blant dan naw oed. Honnodd yr amddiffyniad hefyd nad oedd Mr Shafi erioed wedi gweld y fêps ei hun.
Rhybuddiodd y Barnwr Rhanbarth Gwyn Jones fod y rhai hynny sy'n dod ag eitemau i mewn i Gymru a Lloegr yn gyfrifol am sicrhau eu bod yn cydymffurfio.
Disgrifiodd Mr Shafi fel dyn busnes llwyddiannus a dyn teulu, ac oherwydd hynny na fyddai’n gosod dedfryd o garchar. Fodd bynnag, wrth gyfeirio at y fêps, dywedodd fod Mr Shafi, fel dyn busnes, yn gwybod fod problem.
Gorfodwyd Mr Shafi i dalu dirwy o £3,500 am bob trosedd yn ogystal â gordal dioddefwr pellach o £2,000 a chostau i'r erlyniad o £18,328.61, gyda’r cyfan yn dod i gyfanswm o £30,828.61. Yn ychwanegol at hyn, roedd yn rhaid i SpeedDrop Logistics Ltd dalu £250 am bob trosedd a gordal dioddefwr o £300, gyda’r cyfan yn dod i gyfanswm o £1,050 ar gyfer y cwmni.
Cyhoeddwyd hefyd orchymyn fforffedu a dinistrio, er mwyn galluogi'r awdurdod lleol i gael gwared ar y fêps.
I grynhoi, diolchodd y Barnwr Rhanbarth Gwyn Jones i swyddogion Gyngor Sir Ynys Môn am yr holl waith nad oedd y cyhoedd yn ei weld, sy’n sicrhau bod y nwyddau maen nhw’n eu prynu mewn siopau yn ddiogel a chyfreithlon