Yn cynrychioli holl wasanaethau safonau masnach ledled Cymru
Representing all trading standards services across Wales

Dedfrydu dyn o Gaergybi am werthu tybaco yn anghyfreithlon


Roedd Barry Anthony Cassidy, o Lôn Picinhirnos, Caergybi, wedi pledio’n euog ym mis Tachwedd 2025 i fod ynghlwm â busnes twyllodrus (Deddf Twyll 2006) a chuddio/trosi eiddo troseddol (Deddf Enillion Troseddau 2002).

 

Yn ystod y gwrandawiad dedfrydu yn Llys Ynadon Caernarfon ddoe (Dydd Mawrth, 6 Ionawr), cafodd ei ddedfrydu i 150 awr o waith di-dâl o dan orchymyn cymunedol 12 mis, a’i orchymyn i dalu cyfanswm o £2,541.07 (sef £2,427.07 mewn costau a gordal dioddefwyr o £114).

 

Cafodd yr achos yn erbyn Mr Cassidy ei ddwyn gan adran Safonau Masnach Ynys Môn ar y cyd â thîm tybaco anghyfreithlon rhanbarthol Cymru, Ymgyrch CeCe.

 

Clywodd y Llys fod gwarant wedi’i gweithredu yn ei gartref ac, yn dilyn cynnal dadansoddiad fforensig o’i ffôn symudol, cafwyd tystiolaeth fod Mr Cassidy wedi bod yn gwerthu tybaco anghyfreithlon rhwng Mawrth 2023 a Mehefin 2024. Cyfrifwyd bod ei weithredoedd wedi arwain at golled ariannol o dros £10,000 gan nad oedd tollau wedi’u talu ar y tybaco ac roedd busnesau cyfreithlon wedi colli busnes hefyd.

 

Mewn adroddiad cyn-dedfrydu gan y Gwasanaeth Prawf, datgelwyd bod Mr Cassidy wedi cael ei gyflogi fel rheolwr yn yr Adran Gwaith a Phensiynau am dros 30 mlynedd.

 

Er iddo gyfaddef ei fod wedi gwneud elw ariannol, honnodd Mr Cassidy nad oedd y swm yn un sylweddol ac roedd yn mynnu mai dim ond £10 o elw oedd o’n ei wneud ar bob pecyn o 200 o sigaréts.

 

Fodd bynnag, rhybuddiodd y Gwasanaeth Prawf eu bod yn credu fod Mr Cassidy yn siŵr o fod yn gwneud mwy o elw na dim ond rhyw £10 yma ac acw.

 

Dywedodd Mr Cassidy ei fod yn edifar yr hyn a wnaeth a honnodd nad oedd o’n sylweddoli beth oedd oblygiadau ehangach ei weithredoedd a bod busnesau cyfreithlon wedi cael eu heffeithio a cholli incwm o’r herwydd.

 

Roedd y Cynghorydd Nicola Roberts, deilydd portffolio Gwarchod y Cyhoedd Cyngor Môn, yn croesawu’r ddedfryd. Ychwanegodd, “Mae’r achos hwn yn dangos yn glir pa mor effeithiol yw cydweithio gyda’n partneriaid yn nhîm tybaco anghyfreithlon rhanbarthol Cymru, Ymgyrch CeCe. Rydw i’n ddiolchgar hefyd i’n swyddogion Safonau Masnach am sicrhau fod y gwerthiant tybaco anghyfreithlon yma wedi cael ei ddarganfod a bod Barry Anthony Cassidy wedi cael ei ddwyn i gyfri am ei droseddau.”

 

Llun erbyn Haim Charbit ymlaen Unsplash

Erthygl flaenorol
Your session will expire in xx.xx. Do you wish to Continue or Log Out
Your session will expire in xx.xx
Continue or Log Out