Gorchymyn i fasnachwr twyllodrus dalu dros £6,000 yn dilyn ymchwiliad Safonau Masnach Caerffili
Fe wnaeth Douggie Whitbread, 25 oed – o Coldwell Terrace, Penfro – berswadio perchennog tŷ ei fod “yn fwy na thebyg bod angen to newydd,” cyn codi £4,350 arno am waith a oedd naill ai'n ddiangen neu wedi'i wneud i safon wael.
Fe wnaeth Whitbread gyfaddef dau gyhuddiad o dwyll o ran eiddo yn Griffiths Street, Ystrad Mynach, gyda'r troseddau yn digwydd rhwng 12 Awst ac 16 Hydref 2023.
Aeth gerbron Llys Ynadon Cwmbrân, lle cafodd orchymyn i dalu cyfanswm o £6,130. Roedd hyn yn cynnwys iawndal o £4,350, costau erlyn o £1,500, dirwy o £200, a gordal dioddefwr o £80.
Daeth yr erlyniad yn sgil ymchwiliad manwl gan dîm Safonau Masnach Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.
Wrth sôn am yr achos, dywedodd y Cynghorydd Philippa Leonard, Aelod Cabinet dros Gynllunio a Diogelu'r Cyhoedd,
“Mae'r euogfarn hon yn anfon neges glir na fyddwn ni'n goddef masnachwyr twyllodrus yn ecsbloetio trigolion er budd ariannol. Mae ein tîm Safonau Masnach yn gweithio'n galed i ddiogelu ein cymunedau, ac rydw i'n falch o weld cyfiawnder yn cael ei sicrhau yn yr achos hwn. Rydyn ni'n annog trigolion i fod yn wyliadwrus, ceisio dyfynbrisiau dibynadwy, ac osgoi cytuno i waith gan alwyr diwahoddiad neu fasnachwyr diwahoddiad.”
Os oes gan drigolion bryderon ynghylch arferion masnachu twyllodrus neu amheus, dylen nhw roi gwybod i'r Cyngor neu drwy wasanaethau cenedlaethol cyngor i ddefnyddwyr.