Yn cynrychioli holl wasanaethau safonau masnach ledled Cymru
Representing all trading standards services across Wales

Datganiad i’r Wasg – Lansiad Maniffesto Safonau Masnach Cymru 2026 a’r Adroddiad Effeithiau a Chanlyniadau 2024/25


Gwasanaethau Safonau Masnach yng Nghymru yn datgelu Maniffesto 2026 ac Adroddiad Effaith a Chanlyniadau 2024/25

Mae Safonau Masnach Cymru heddiw wedi lansio ei Maniffesto 2026, gan nodi gweledigaeth feiddgar a blaengar ar gyfer gwasanaeth Safonau Masnach cadarn, effeithiol ac wedi’i gyllido’n ddigonol – i allu gwynebu heriau’r dyfodol, diogelu defnyddwyr a chryfhau cymunedau ledled Cymru.

Wedi’i ryddhau ochr yn ochr â’r Adroddiad Effeithiau a Chanlyniadau ACTSO Cymru2024/25, mae’r cyhoeddiad yn tynnu sylw at y gwahaniaeth cadarnhaol a wnaed gan dîmau Safonau Masnach awdurdodau lleol dros y flwyddyn ddiwethaf, a’r uchelgais i adeiladu ar y llwyddiant hwnnw yn y blynyddoedd i ddod.

Mae’r Maniffesto yn pwysleisio rôl hanfodol Safonau Masnach fel gwasanaeth cyhoeddus awdurdod lleol ac yn anelu at lywio trafodaethau cyn Etholiadau’r Senedd yn 2026. Mae’n galw am gyllid a chefnogaeth barhaus i sicrhau bod timau Safonau Masnach yn gallu ymateb i ddeddfwriaeth a pholisi newydd, gan droi ymrwymiadau’n amddiffyniad go iawn i ddefnyddwyr, busnesau a chymunedau.

Mae’r ddogfen yn nodi prif geisiadau i ymgeiswyr a phartïon cyn etholiadau’r Senedd nesaf, gan gynnwys buddsoddiad cynaliadwy, partneriaethau cenedlaethol a rhanbarthol cryfach, a chydnabyddiaeth wleidyddol newydd o’r rôl hanfodol y mae Safonau Masnach yn ei chwarae mewn marchnad fodern ddigidol. Mae’n tynnu sylw at y ffaith bod gwasanaethau eisoes yn gweithredu ar eu llawn gallu, a bod llwyddiant yn y dyfodol yn dibynnu ar gyfateb disgwyliadau cynyddol â’r offer, sgiliau a’r adnoddau cywir.

Ar yr un pryd, mae’r Adroddiad Effeithiau a Chanlyniadau a’r ffeithlun cydymaith yn dal gwaith tîmau Safonau Masnach awdurdodau lleol ledled Cymru wrth ddiogelu defnyddwyr, mynd i’r afael â nwyddau anniogel a ffug, cefnogi masnachwyr dilys, a helpu i adeiladu economi Gymreig deg a gwydn.

Mae pob ffigur yn yr adroddiad yn cynrychioli gwahaniaeth go iawn: teuluoedd yn fwy diogel yn eu cartrefi, busnesau wedi’u hamddiffyn rhag cystadleuaeth annheg, a chymunedau wedi’u cryfhau drwy orfodi ac ymgynghori effeithiol.

Dywedodd Jacqui Thomas, Cadeirydd Safonau Masnach Cymru:
“Mae Safonau Masnach Cymru yn falch o gyflwyno’r Maniffesto 2026, sy’n edrych ymlaen at yr heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu ein gwasanaeth dros y blynyddoedd nesaf. Mae’r Maniffesto yn alwad i weithredu ac yn ddatganiad o uchelgais. Wrth i Gymru agosáu at etholiadau’r Senedd nesaf, mae’r ddogfen hon yn gweithredu fel galwad i ymgyrchu a map ffordd – yn dangos sut y gall Safonau Masnach barhau i gyflawni canlyniadau ystyrlon i bobl a busnesau ym mhob cymuned, os yw’r proffesiwn wedi’i gyllido’n briodol i wynebu heriau economi sy’n newid yn gyflym.”

Mae Safonau Masnach Cymru yn cynrychioli’r 20 gwasanaeth Safonau Masnach awdurdod lleol ledled Cymru, gan ddod â bron i 300 o swyddogion ynghyd sy’n diogelu defnyddwyr, yn sicrhau masnach deg, ac yn cefnogi masnachwyr gonest. Mae’n darparu llais ar y cyd i dimau awdurdodau lleol, gan rannu deallusrwydd, mynd i’r afael â materion trawsffiniol, a chynnig arweinyddiaeth strategol i’r proffesiwn. Drwy weithio’n agos gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Llywodraeth Cymru, Safonau Masnach Cenedlaethol, HMRC, a phartneriaid diwydiant, mae’n helpu i sicrhau bod tegwch, diogelwch ac ymddiriedaeth yn parhau wrth galon bywyd Cymreig.

Mae’r ddau gyhoeddiad – Maniffesto Safonau Masnach Cymru 2026 a’r Adroddiad Effeithiau a Chanlyniadau 2024/25 – ar gael ar: https://tradingstandards.gov.wales/cym/about/

Erthygl flaenorol
Your session will expire in xx.xx. Do you wish to Continue or Log Out
Your session will expire in xx.xx
Continue or Log Out