Yn cynrychioli holl wasanaethau safonau masnach ledled Cymru
Representing all trading standards services across Wales

Gwaith trydanol yn gadael gorsaf betrol ar Ynys Môn mewn cyflwr peryglus


Dydd Mawrth (Rhagfyr 9fed), fe wnaeth Llys Ynadon Caernarfon orchymyn Derby Firelec Ltd i dalu’r ddirwy, ynghyd â gordal dioddefwyr o £2,000 (sef cyfanswm taliad o £22,000).
 
Cafodd cyfarwyddwr y cwmni, Mahammadrafik Patel, 65, hefyd o Bolton, a oedd yn gyfrifol am wneud y gwaith yn Garej Dyffryn, Fali, er nad oedd ganddo’r cymwysterau priodol, ei orchymyn i gyflawni 120 awr o wasanaeth cymunedol di-dâl a thalu £778.53 mewn costau a gordal dioddefwyr.
 
Nid oedd y gosodiad trydanol wedi’i ddaearu ac roedd y safle’n anniogel ac, wrth ddedfrydu, rhybuddiodd yr Ynadon y gallai canlyniadau’r gweithredoedd ‘fod yn drychinebus’.
 
Cafodd yr achos ei ddwyn gan adran Safonau Masnach Ynys Môn, a chyflwynodd Derby Firelec Ltd a Mr Patel ble dieuog ym mis Hydref 2025 mewn perthynas â nifer o gyhuddiadau o dan Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974.
 
Clywodd y llys fod Mr Patel wedi gwneud gwaith ar yr orsaf betrol ar 31 Ionawr 2024 a 12 Chwefror 2024, a’i fod wedi cyflwyno adroddiad Gosodiad Trydanol oedd yn datgan fod y gwaith trydanol ar y safle yn ddiogel, er nad oedd hynny’n wir a bod angen rhoi sylw ar unwaith i ddiffygion.
 
Derbyniodd Adran Safonau Masnach Ynys Môn, sef yr Awdurdod Gorfodaeth Petrolewm, gopi o’r Adroddiad Gosodiad Trydanol ar 13 Chwefror 2024, a chodwyd amheuon am gymhwysedd y peiriannydd trydanol oedd wedi cwblhau’r adroddiad gan ei fod yn cynnwys nifer o wallau, yn ogystal ag adrannau anghyflawn.
 
Daeth yn amlwg yn fuan iawn nad oedd Mr Patel, oedd yn masnachu o dan yr enw Derby Firelec Ltd, wedi cael ei gymeradwyo o dan ei aelodaeth o Gymdeithas y Contractwyr Trydanol (ECA) i wneud unrhyw fath o waith trydanol mewn Ardal Beryglus o’r orsaf betrol, ac nid oedd ganddo gymhwysedd Compex 7 ac 8, er bod ei fan a’i waith papur yn dangos hynny.
 
Honnodd Mr Patel a Derby Firelec Ltd eu bod wedi hysbysu perchnogion yr orsaf betrol fod ei gymhwysedd wedi dod i ben ac nad oedd wedi derbyn canlyniadau ei brawf diwethaf eto, ond ni lwyddodd i basio’r prawf hwnnw.
 
Er hynny, ac er ei fod yn ymwybodol o’r peryglon, aeth ymlaen i gyflwyno adroddiad er nad oedd y broblem daearu trydan ar y safle wedi cael ei chywiro. Dywedodd Mr Patel ei fod yn difaru ei weithredoedd a’i fod yn derbyn iddo wneud camgymeriad.
 
Dywedodd y Cynghorydd Nicola Roberts, deilydd portffolio Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd Cyngor Môn, “Roedd hwn yn achos difrifol iawn ac rydw i’n ddiolchgar i’n tîm Safonau Masnach am sicrhau fod Derby Firelec Ltd a Mr Patel wedi cael eu dwyn o flaen eu gwell. Rydw i’n gobeithio y bydd y ddirwy sylweddol hon yn anfon neges glir na fydd arferion gwaith sy’n is na’r safon ddisgwyliedig ac yn anniogel yn cael eu goddef.”
 
"Hoffwn annog busnesau hefyd i sicrhau bob amser fod gweithwyr sy’n gwneud gwaith ar eu rhan yn meddu ar y cymwysterau a’r tystysgrifau angenrheidiol i wneud y gwaith.”
 
Mae Mr Patel bellach wedi llwyddo yn y profion ac mae o’n gymwys yn awr i wneud y math yma o waith.

 
Erthygl flaenorolErthygl Nesaf
Your session will expire in xx.xx. Do you wish to Continue or Log Out
Your session will expire in xx.xx
Continue or Log Out