Yn cynrychioli holl wasanaethau safonau masnach ledled Cymru
Representing all trading standards services across Wales

Safonau Masnach y Cyngor yn cymryd rhan yn Ymgyrch Machinize 2: menter genedlaethol wedi'i chydlynu i atal troseddau ar y stryd fawr


Cafodd Ymgyrch Machinize 2 ei chynnal, dan arweiniad yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol ac mewn cydweithrediad â Chyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu, drwy gydol mis Hydref ac roedd yn cynnwys pob heddlu ac Uned Troseddau Cyfundrefnol Rhanbarthol yn y Deyrnas Unedig, adran Gorfodi Mewnfudo'r Swyddfa Gartref, Safonau Masnach, Cyllid a Thollau EF a Tŷ'r Cwmnïau. Yn ystod yr ymgyrch, cyflawnodd y bartneriaeth y canlynol:

•             Cafodd 2,734 o adeiladau eu hymweld a'u cyrchu
•             Cafodd 924 o unigolion eu harestio
•             Cafodd dros £10.7 miliwn o enillion troseddau posibl eu hatafaelu
•             Cafodd dros £2.7 miliwn o nwyddau anghyfreithlon eu dinistrio

Mae'r ffigurau hyn yn cynnwys cael gwared â 70 cilogram o ganabis o'n strydoedd ni, 111,000 o fêps niweidiol, anghyfreithlon, 4.5 miliwn o sigaréts anghyfreithlon a 622 cilogram o dybaco anghyfreithlon (sy'n cyfateb i osgoi talu £3.5 miliwn mewn tolldaliadau). Cafodd 341 o Hysbysiadau Atgyfeirio eu cyhoeddi am weithio a rhentu anghyfreithlon hefyd, sy'n golygu y gallai busnesau wynebu dirwyon o hyd at £60,000 fesul gweithiwr gyda landlordiaid yn wynebu dirwyon o hyd at £20,000 fesul tenant os maen nhw’n cael eu canfod yn atebol. Hefyd, mae dros 450 o gwmnïau wedi cael eu hatgyfeirio at Dŷ'r Cwmnïau ar gyfer ymchwilio ymhellach.

Dyma'r ymgyrch fwyaf o'i math sy'n canolbwyntio ar gael gwared ar y troseddau economaidd a'r economi lwyd sy'n gwneud ein strydoedd mawr yn llai diogel a ffyniannus. 

Beth yw Ymgyrch Machinize?

Mae'r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol yn amcangyfrif bod o leiaf £12 biliwn o arian parod troseddol yn cael ei gynhyrchu yn y Deyrnas Unedig bob blwyddyn, sydd, fel arfer, yn cael ei smyglo allan o'r wlad neu ei integreiddio i systemau ariannol, yn aml i'w fwydo’n ôl i weithgareddau troseddol. 

Mae busnesau ar y stryd fawr fel siopau bach cyfleustra, siopau barbwr, siopau fêps, bariau ewinedd a lleoedd golchi ceir i wneud i enillion troseddau ymddangos fel elw cyfreithlon busnes masnachol neu wasanaeth. Mae busnesau'r stryd fawr hefyd yn cael eu defnyddio i werthu cynhyrchion anghyfreithlon ac osgoi talu treth, ac yn aml, maen nhw’n gysylltiedig â mathau eraill o droseddoldeb fel cyflenwi cyffuriau a'r trais difrifol y mae'n ei achosi.

Yn gynharach eleni, sefydlodd yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol Ymgyrch Machinize ar ôl nodi bod camfanteisio troseddol gan fusnesau'r stryd fawr y tu hwnt i gwmpas un sefydliad yn unig. Gan weithio mewn partneriaeth â Chyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu, mae'n anelu at sefydlu ymateb gweithredol ar raddfa fawr i broblem amlochrog.  Mae'r dull hwn – wedi'i gydlynu'n genedlaethol ac wedi'i chyflawni yn ein cymunedau – yn sicrhau'r defnydd mwyaf effeithiol o bwerau a galluoedd, gan fanteisio ar gryfderau a chyfrifoldebau pob asiantaeth sy'n cymryd rhan. 

Cafodd Ymgyrch Machinize ei sefydlu i dargedu troseddau economaidd ar y stryd fawr gyda'r iteriad hwn hefyd yn canolbwyntio ar yr economi lwyd. Mae gorgyffwrdd hysbys â chamfanteisio gan fusnesau ar y stryd fawr, gweithio anghyfreithlon ac osgoi talu tollau a threthi. Mae'r gorgyffwrdd hwn hefyd yn cynnwys caethwasiaeth fodern ac amodau byw a gwaith anaddas, ac mae diogelu unigolion sy'n wynebu risg yn parhau i fod yn flaenoriaeth i'r bartneriaeth.

Dywedodd y Cynghorydd Phillipa Leonard, Aelod Cabinet dros Gynllunio a Diogelu'r Cyhoedd, "Mae Ymgyrch Machinize wedi dangos beth sy’n gallu cael ei gyflawni pan fydd gwybodaeth leol a chydlynu cenedlaethol yn dod at ei gilydd. Yng Nghaerffili, rydyn ni’n falch o chwarae ein rhan wrth fynd i'r afael â rhwydweithiau troseddol sy'n manteisio ar ein strydoedd mawr, amddiffyn busnesau lleol, cadw ein cymunedau'n ddiogel, a sicrhau bod ein canol trefi yn parhau i fod yn lleoedd lle gall menter gyfreithlon ffynnu."

Erthygl flaenorol
Your session will expire in xx.xx. Do you wish to Continue or Log Out
Your session will expire in xx.xx
Continue or Log Out