Cyrch ar siop gan Safonau Masnach yn darganfod tybaco a fêps anghyfreithlon o dan gawell aderyn ac mewn ceudyllau cudd
Daeth Mohammed Hassan Abdulla, 40, o Deras Brooklands, Abertawe, oedd yn masnachu dan enw Market Vapes yn Heol yr Orsaf, Port Talbot, i sylw’r awdurdodau oherwydd gwerthiant fêps anghyfreithlon a sigaréts ffug.
Cynhaliodd y tîm Safonau Masnach gyrch ar yr eiddo ar y cyd â swyddogion o Heddlu De Cymru ym mis Hydref 2023, yn dilyn gwneud dau bryniant prawf o sigaréts ffug o’r eiddo.
Yn ystod y cyrch, atafaelodd swyddogion bron i dair mil o sigaréts ffug, 34 pecyn o dybaco rholio ffug a 58 fêp anghyfreithlon. Defnyddiwyd cuddio, ceudyllau cudd ar yr eiddo, a hyd yn oed waelod cawell aderyn i guddio’r cynhyrchion anghyfreithlon, ond cawsant eu darganfod gan swyddogion chwilio gan ddefnyddio cŵn oedd yn gallu’u harogleuo.
Cynhaliwyd ymweliad pellach gan y tîm Safonau Masnach ym mis Ebrill 2024, unwaith eto yng nghwmni’r heddlu, ond y tro hwn gyda swyddogion tybaco arbenigol o Safonau Masnach. Aethpwyd â rhagor o gynhyrchion tybaco ffug o’r eiddo, ac o gerbydau ‘celc’ cyfagos a ddefnyddiwyd i storio stoc anghyfreithlon oddi ar yr eiddo.
Atafaelwyd dros 2,500 o sigaréts ffug, 108 fêp anghyfreithlon a 36 pecyn o dybaco rholio ffug. Mewn cyfweliad, gwadodd Mr Abdulla ei fod yn gwybod unrhyw beth am y gwerthu anghyfreithlon na’r ceudyllau cudd yn y siop.
Daeth yr eiddo hefyd dan orchymyn cau am dri mis o fis Chwefror tan fis Mai 2025 oherwydd y gweithgareddau hyn ac eraill rhwng Mai ac Awst 2024.
Aeth Mr Abdulla gerbron Llys y Goron Abertawe am y tro cyntaf ar 8 Medi 2025, ble plediodd yn euog i sawl trosedd, sef:
- Tair trosedd o werthu sigaréts a thybaco ffug
- Tair trosedd o gyflenwi sigaréts electronig nad oeddent yn cydymffurfio â'r rheoliadau
- Bwriadu twyllo'r Llywodraeth o dollau sy'n daladwy ar nwyddau, a
- Cynnal busnes twyllodrus.
Yna, ymddangosodd gerbron Llys y Goron Abertawe ar 24 Hydref 2025. Dywedodd y barnwr oedd yn dedfrydu, HHJ Thomas KC, wrth y llys: “Mae gwerthu fêps anghyfreithlon yn peryglu aelodau’r cyhoedd ac mae angen i’r llys anfon neges i geisio dod â’r fasnach niweidiol hon i ben.”
Dyfarnwyd Mr Abdulla i 18 mis o garchar ar bob cyhuddiad i gydredeg, gyda phob un wedi’u gohirio am ddwy flynedd. Fe’i gorchmynnwyd i gwblhau 200 awr o waith di-dâl, a 10 diwrnod gweithgaredd ailsefydlu yn ôl cyfarwyddyd y Gwasanaeth Prawf. Fe’i gorchmynnwyd hefyd i dalu £4,646.46 mewn costau a gordal dioddefwr i Gyngor Castell-nedd Port Talbot.
Canmolodd Aelod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot dros Natur, Twristiaeth a Llesiant, y Cynghorydd Cen Phillips, waith y swyddogion Safonau Masnach, gan ddweud: “Mae sigaréts ffug yn ddireol, yn beryglus, ac mae modd eu defnyddio i dalu am droseddau cyfundrefnol difrifol.
“Dyw’r fêps a atafaelwyd ddim yn cyd-fynd â safonau diogelwch y DU, ac maen nhw’n ddarpar berygl difrifol i iechyd pobl. Bydd ein tîm Safonau Masnach yn parhau i ymchwilio i’r mathau hyn o droseddau.”