Dedfrydu twyllwr
Cafodd Alan Pearson, a oedd yn byw yng Nghasnewydd cyn symud i Orllewin Canolbarth Lloegr, ei erlyn yn llwyddiannus gan Gyngor Dinas Casnewydd yn dilyn ymchwiliad gan y tîm safonau masnach.
Plediodd yn ddieuog i bedair trosedd o dwyll ond cafwyd ef yn euog yn dilyn treial yn gynharach eleni yn Llys y Goron Merthyr.
Yn Llys y Goron Caerdydd, Pearson, 65 oed, ei ddedfrydu i ddwy flynedd o garchar wedi ei ohirio am 2 flynedd. Cafodd hefyd ddirwy o £2000 a gorchymyn i dalu cyfraniad o £1,000 tuag at y costau erlyn.
Dywedodd wrth gwsmeriaid, rhai ohonynt yn oedrannus, y byddent yn gallu inswleiddio waliau allanol am bris gostyngol oherwydd cyllid gan y llywodraeth.
Roedd y dyfynbris i gwsmeriaid cyn cofrestru yn ôl pob tebyg yn "bris gostyngol". Roedd yna achosion o werthu trwy bwysau, gan ddweud wrth gwsmeriaid bod angen iddynt weithredu'n gyflym, bod y cyllid yn gyfyngedig a’i fod yn cael ei ddyrannu ar sail "y cyntaf i'r felin".
Nid oedd hyn yn wir ac nid oedd cyllid gan y llywodraeth i rai cwsmeriaid.
Fe wnaeth cwyn i Gyngor Dinas Casnewydd ysgogi ymchwiliad gan dîm ymchwilio rhanbarthol Safonau Masnach Cymru a thîm safonau masnach y Cyngor, gan ddatgelu troseddau yn ymwneud â dioddefwyr yng Nghas-gwent, Bryste, Lydney, a Stourport-on-Severn.
Dywedodd y Cynghorydd Saeed Adan, Aelod Cabinet y Cyngor dros Dai a Chynllunio: "Hoffwn ganmol swyddogion am eu hymchwiliad trylwyr a'u gwaith caled a arweiniodd at yr erlyniad a'r dedfrydu llwyddiannus.
"Mae hon yn drosedd ffiaidd, yn enwedig gan fod y dioddefwyr yn agored i niwed. Rwy'n gobeithio bod yr achos hwn yn anfon neges gref i dwyll fasnachwyr eraill na fydd ymddygiad o'r fath yn cael ei oddef."
Dywedodd yr Arglwydd Michael Bichard, Cadeirydd Safonau Masnach Cenedlaethol: "Bydd Safonau Masnach Cenedlaethol yn parhau i gefnogi timau lleol ledled y wlad i ddod o hyd i droseddwyr sy'n ecsbloetio defnyddwyr ac yn niweidio enw da busnesau cyfreithlon. Rwy'n canmol tîm ymchwilio rhanbarthol Safonau Masnach Cenedlaethol (Cymru) a'r swyddogion safonau masnach sydd wedi'u lleoli yng Nghasnewydd am yr erlyniad llwyddiannus hwn."