Yn cynrychioli holl wasanaethau safonau masnach ledled Cymru
Representing all trading standards services across Wales

Llys Ynadon Llandudno yn rhoi gorchymyn cau am dri mis, i sicrhau diogelwch trigolion yng Nghyffordd Llandudno


Yn dilyn cwynion gan drigolion pryderus, fe aeth Swyddogion Safonau Masnach Conwy, gyda chefnogaeth gan Heddlu Gogledd Cymru, i archwilio OK Stores, Ffordd Conwy, Cyffordd Llandudno a Mini Mart, Mostyn Street, Llandudno. Yn ystod yr archwiliad, daeth y Swyddogion Safonau Masnach o hyd i symiau sylweddol o’r canlynol a’u hatafaelu:

  • teganau plant ffug a pheryglus
  • tybaco a sigaréts peryglus, anghyfreithlon a ffug
  • fêps peryglus ac anghyfreithlon

ynghyd ag arian ffug. 

Caewyd y ddwy siop ar unwaith a gwnaethpwyd cais i Lys Ynadon Llandudno i gau’r ddwy siop am 3 mis arall.

Ar 23 Medi, cyflwynodd Llys Ynadon Llandudno orchymyn i gau OK Stores yng Nghyffordd Llandudno am dri mis a gohiriwyd penderfyniad ynglŷn â Mini Mart, Llandudno, gyda’r siop yn aros ar gau am 14 diwrnod, gyda’r posibilrwydd y bydd yn aros ar gau am dri mis arall. 

 

I roi gwybod am drosedd cysylltwch â Crimestoppers ar 0800 55511

Cysylltwch â Safonau Masnach Conwy ar safonau.masnach@conwy.gov.uk

Safonau Masnach - Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Erthygl flaenorolErthygl Nesaf
Your session will expire in xx.xx. Do you wish to Continue or Log Out
Your session will expire in xx.xx
Continue or Log Out