Cyngor yn ennill gorchmynion cau yn erbyn pedair siop fêps yng Nghastell-nedd Port Talbot
Fe wnaeth Barnwr Rhanbarth yn Llys Ynadon Abertawe gymeradwyo cau am dri mis y siopau canlynol dan Adran 80 o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014:
Vape Land, Commercial Road, Taibach
Vape Zone, Heol y Frenhines, Castell-nedd
Classic Vape, Heol yr Orsaf, Port Talbot
Pontardawe Vape, Heol James, Pontardawe
Dyma’r ail dro i Vape Land dderbyn gorchymyn cau yn ystod y 6 mis diwethaf.
Canfuwyd fod y lleoliadau hyn yn gwerthu tybaco a sigaréts ffug ac anghyfreithlon (heb dalu treth) yn ogystal â fêps anghyfreithlon a gorfaint ar sawl achlysur yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf.
Fe wnaeth Swyddog o Dîm Safonau Masnach y cyngor roi hanes cryno am bob busnes i’r Barnwr Rhanbarth, gan esbonio fod cyfres o bwrcasau prawf wedi cael eu gwneud ymhob un o’r mangreoedd ac, yn ystod cyfres o archwiliadau ymhob un o’r lleoliadau, fod cynnyrch anghyfreithlon wedi cael ei ddarganfod.
Ym mis Medi 2025, cynhaliodd Heddlu De Cymru, Swyddogion Tîm Safonau Masnach a Gorfodi Gwastraff archwiliadau yn y lleoliadau a arweiniodd at atafaelu fêps, tybaco dail a sigaréts.
Dywedwyd ymhellach wrth y Barnwr Rhanbarth fod mwy o gwynion wedi’u derbyn ynghylch gwerthu fêps untro, sigaréts a thybaco nad oedden nhw’n cydymffurfio â’r ddeddf, a gwerthu fêps i bobl o dan 18 oed.
Cytunodd y Barnwr Rhanbarth i wneud y gorchmynion cau mewn gwrandawiadau ar 9 a 16 Hydref 2025, ar ôl cael clywed gan y swyddog archwilio mai barn y cyngor oedd byddai’r niwsans yn parhau oni bai fod y siopau’n cael eu cau.
Er gwaethaf cysylltu â nhw a’u hysbysu o fwriad y Cyngor i wneud cais am Orchmynion Cau, ni wnaeth perchnogion Vape Land, Vape Zone na Pontardawe Vape fynychu’u gwrandawiadau perthnasol.
Dadleuodd perchennog newydd Classic Vape yn erbyn y cais am Orchymyn Cau, ond derbyniodd y Barnwr ddadl y cyngor fod patrwm o weld y busnes yn newid dwylo’n rheolaidd, yn aml wedi i archwiliadau gan Safonau Masnach ddigwydd.
Gwnaed gwerthu a chyflenwi fêps untro (tafladwy) ar draws y DU yn anghyfreithlon ar 1 Mehefin 2025. Mae’r gwaharddiad hwn yn berthnasol i bob busnes, ar lein ac mewn siopau, waeth a yw’r fêps yn cynnwys nicotin ai peidio.
Y rhesymeg sy’n sail i’r gwaharddiad yw mynd i’r afael ag effaith amgylcheddol fêps tafladwy, sy’n aml yn cael eu taflu’n anaddas, ac sy’n cynnwys sylweddau niweidiol. Amcan arall y gwaharddiad yw gwarchod plant a phobl ifanc, am fod fêps untro’n cael eu gweld yn fwy apelgar i fêpwyr dan oedran.
Gwerthir fêps untro nad ydyn nhw’n cydymffurfio, o’r math a ganfuwyd yn Vape Land, yn aml mewn pecynnau lliwgar a blasau a allai apelio at blant. Gall oblygiadau iechyd meddwl ar blant hawdd dylanwadu arnynt sy’n prynu’r fêps hyn fod yn hirdymor a difrifol iawn.
Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot dros Natur, Twristiaeth a Llesiant, y Cynghorodd Cen Phillips: “Gan ddefnyddio’r offer sydd ar gael iddyn nhw, mae Safonau Masnach yn gweithio’n galed i warchod y cyhoedd a’r agored i niwed rhag gwerthiant tybaco a fêps anghyfreithlon.
“Mae gwaith sylweddol wedi cael ei wneud er mwyn cael y gorchmynion cau hyn, a bydd y tîm yn parhau i ddefnyddio’r adnoddau sydd wrth law iddynt i ymladd y fasnach anghyfreithlon hon.
“Hoffwn annog unrhyw un sy’n gonsyrnol am eu cymuned ac iechyd eu plant i riportio unrhyw wybodaeth sydd ganddyn nhw sy’n ymwneud â gwerthu tybaco neu fêps yn anghyfreithlon.”