Yn ystod y 5 ymweliad a ddigwyddodd drwy’r sir fe feddiannodd swyddogion nifer o eitemau gyda nodau masnach Labubu, Coca Cola a Disney ymhlith brandiau adnabyddus eraill.

Mae’r nwyddau ffug hyn yn aml yn ganlyniad i dueddiadau ar y cyfyngau cymdeithasol sy’n arwain at y galw am y cynnyrch yn gwrthbwyso gallu’r gwneuthurwr i’w gyflenwi ac maent yn aml yn rhatach i’w prynu na’r cynnyrch go iawn.

Wrth ymchwilio ymhellach roedd yn amlwg fod yr eitemau a feddiannwyd yn cyflwyno risg fawr i blant ifanc gan eu bod yn cynnwys darnau bach datodadwy a oedd yn torri’n hawdd.

Bydd tîm safonau masnach Cyngor Sir Ddinbych yn parhau i fynd i’r afael â nwyddau ffug ar draws y sir ac yn helpu i addysgu masnachwyr lleol ynglŷn â’r peryglon sydd ynghlwm â gwerthu’r nwyddau anghyfreithlon hyn.

Dywedodd y Cynghorydd Alan James, Aelod Arweiniol Datblygu Lleol a Chynllunio:

“Ar ôl gweld nifer o negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol yn hysbysebu gwerthu doliau Labubu mewn siopau ar draws y sir, fe ysgrifennodd ein tîm safonau masnach at yr holl fasnachwyr dan sylw gyda chyngor cyffredinol am nwyddau ffug, yn arbennig brand Labubu.

O ganlyniad i’r cynnydd diweddar yn y galw am y doliau Labubu hyn, roedd ein swyddogion yn pryderu am y cynnydd posibl mewn nwyddau ffug a oedd yn cael eu cyflwyno fel nwyddau go iawn pan oeddent yn cael eu gwerthu yn y sir.

“Mae meddiannu’r nwyddau anghyfreithlon hyn yn ganlyniad gwych i’r tîm ac yn amlygu’r gwaith pwysig mae ein swyddogion yn ei wneud i sicrhau diogelwch ein preswylwyr wrth iddynt brynu’r nwyddau hyn y maent yn credu eu bod yn gynnyrch go iawn.

“Mae’n bwysig cofio mai dim ond ar safleoedd ‘swyddogol’ mae llawer o’r cynnyrch hyn ar gael a dylai prynwyr posibl ymatal rhag prynu’r eitemau hyn os ydynt yn amau ai dyma’r cynnyrch go iawn.

Gall busnesau gysylltu â Thîm Safonau Masnach Sir Ddinbych i gael cyngor ar nwyddau ffug ar wefan Sir Ddinbych .