Yn cynrychioli holl wasanaethau safonau masnach ledled Cymru
Representing all trading standards services across Wales

Teganau meddal ffug wedi'u tynnu o’r farchnad ar ôl ymyrraeth gan y Tîm Safonau Masnach


Ar hyn o bryd mae nifer o ddoliau Labubu ffug a theganau meddal o frandiau eraill yn aros i gael eu dinistrio ar ôl cael eu hatal rhag cael eu gwerthu.

Daeth cwyn yn nodi pryderon diogelwch difrifol i adran Diogelu'r Cyhoedd Cyngor Sir Penfro ac arweiniodd hyn at ymchwiliad.

Mae'r teganau ffug hyn, sy'n aml yn ymddangos fel bargen o gymharu â’r cynhyrchion dilys, yn peri risgiau sylweddol i blant. Yn wahanol i eitemau cyfreithlon, nid yw teganau ffug yn cael eu cynhyrchu yn unol â deddfwriaeth lem diogelwch teganau. Maent yn aml wedi'u cynhyrchu’n wael a gallant gynnwys deunyddiau peryglus.

Risgiau Diogelwch Teganau Ffug

Mae ffugwyr fel arfer yn anwybyddu safonau diogelwch ac nid oes ganddynt reolaethau ffatri priodol. O ganlyniad, gall y teganau hyn gynnwys:

  • Cemegau gwenwynig mewn plastigau a all achosi niwed hirdymor i organau plant.
  • Rhannau bach datodadwy fel llygaid, sy'n achosi peryglon tagu i blant ifanc.

Cyngor i Ddefnyddwyr

Mae'r Sefydliad Siartredig ar gyfer Safonau Masnach yn cynnig y canllawiau canlynol i helpu i nodi cynhyrchion dilys:

  • Gwirio deunydd pacio am farc UKCA neu CE a sicrhau bod mewnforiwr neu wneuthurwr yn y DU wedi'i restru. Dylai rhybuddion a chyfarwyddiadau defnyddio fod yn bresennol.
  • Chwilio am farcwyr dilysrwydd ar ddoliau Pop Mart Labubu, gan gynnwys sticer holograffig, cod QR y gellir ei sganio sy'n cysylltu â'r wefan swyddogol, a stamp UV ar un droed (ar fersiynau mwy newydd).
  • Archwilio’r tegan - mae arwyddion ffug yn cynnwys lliwiau rhy lachar, pwytho gwael, neu'r nifer anghywir o ddannedd (mae gan Labubus dilys naw dant).
  • Bod yn wyliadwrus o "fargeinion" – mae prisiau is yn aml yn golygu risgiau uwch.
  • Prynu gan fanwerthwyr dibynadwy ac osgoi gwerthwyr ar-lein anghyfarwydd neu werthwyr trydydd parti ar blatfformau marchnad.

Cyngor i Fanwerthwyr

Mae manwerthwyr hefyd yn cael eu hannog i fod yn ofalus wrth gaffael teganau wedi'u brandio. Mae hyn yn cynnwys:

  • Prynu trwy sianeli swyddogol yn unig.
  • Gwirio am godau gwrth-ffug ar becynnau.
  • Osgoi prynu ar ffurf swmp gan gyflenwyr anhysbys.

Mae gweithgynhyrchu a gwerthu nwyddau ffug yn aml yn gysylltiedig â throseddau cyfundrefnol, gan wneud gorfodi ac ymwybyddiaeth defnyddwyr hyd yn oed yn fwy hanfodol.

I gael rhagor o wybodaeth neu i roi gwybod am bryderon, cysylltwch â Thîm Safonau Masnach Cyngor Sir Penfro ar 01437 764551.

Llun ffeil o deganau ffug tebyg

Erthygl flaenorolErthygl Nesaf
Your session will expire in xx.xx. Do you wish to Continue or Log Out
Your session will expire in xx.xx
Continue or Log Out