Yn cynrychioli holl wasanaethau safonau masnach ledled Cymru
Representing all trading standards services across Wales

Ymchwiliad gan yr adran Safonau Masnach yn darganfod dyn a ddisgrifiwyd fel enghraifft nodweddiadol o fasnachwr twyllod


Rhwng mis Ebrill 2021 a mis Rhagfyr 2023, cysylltodd perchnogion tai â Wayne John Phillips o WJP Electrical, Lingfield Avenue, Port Talbot, yn gofyn iddo wneud gwaith adnewyddu ac ailwifro yn eu cartrefi.

Ymrwymodd Mr Phillips i gontractau â phob un o'r perchnogion tai i wneud amrywiaeth o waith trydanol, gwaith plymwr a gwaith adeiladu gwerth cyfanswm o tua £14,000. Rhoddodd Mr Phillips ddyfynbrisiau ysgrifenedig a oedd â logo contractwr cymeradwy'r Cyngor Arolygu Cenedlaethol ar Gyfer Contractio Gosodiadau Trydanol (NICEIC) arnynt.

Mae NICEIC yn asesu mwy na 37,000 o fusnesau er mwyn sicrhau bod y gwaith gosod a wneir ganddynt yn cyrraedd y safonau sy'n ddisgwyliedig er mwyn cadw pobl yn ddiogel. Er mwyn cofrestru â NICEIC, rhaid i fasnachwyr ddangos cymhwysedd ac ymrwymiad i waith o ansawdd da, cyflwyno tystiolaeth o brofiad a chymwysterau, megis tystysgrifau NVQ neu City & Guilds, bod ag yswiriant priodol a llwyddo mewn asesiad ar y safle gydag aseswr cymeradwy.

Dechreuwyd ar y gwaith yn y tri chartref, ond ni chafodd ei orffen. Roedd arbenigwr o'r farn bod y gwaith yn wael dros ben, ac yn beryglus o bosibl.

Darganfu adran Safonau Masnach Castell-nedd Port Talbot nad oedd gan Mr Phillips gymhwyster trydanol ac nad oedd wedi'i gofrestru ag NICEIC nac yn un o'i gontractwyr cymeradwy.

Plediodd Phillips yn euog i chwe throsedd o dan Ddeddf Twyll 2006 pan ymddangosodd gerbron Llys Ynadon Abertawe ar 24 Gorffennaf 2025 ac, ar ôl clywed ffeithiau'r achos, teimlai'r ynadon fod eu pwerau dedfrydu'n annigonol, felly trosglwyddwyd yr achos i Lys y Goron Abertawe ar gyfer y dedfrydu.

Ymddangosodd Mr Phillips gerbron y Barnwr Paul Thomas CB ar 25 Medi 2025 i gael ei ddedfrydu. Dywedodd y barnwr fod Mr Phillips yn “enghraifft nodweddiadol o fasnachwr twyllodrus” a bod y ffaith ei fod yn honni ei fod yn drydanwr yn gyfystyr â rhywun â “Safon Uwch mewn Bioleg yn honni ei fod yn feddyg”.

Gan ganiatáu 30% o gredyd am bledio'n euog yn gynnar, rhoddodd y Barnwr Thomas y ddedfryd ganlynol i Mr Phillips:

  • 20 mis o garchar yn ohiriedig am ddwy flynedd.
  • Gofyniad i gwblhau 15 diwrnod o Weithgarwch Adsefydlu yn unol â chyfarwyddiadau'r Gwasanaeth Prawf.
  • 200 awr o waith di-dâl yn unol â chyfarwyddiadau'r Gwasanaeth Prawf.
  • Gordal Dioddefwr o £156.

Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot dros Natur, Twristiaeth a Llesiant, y Cyngh. Cen Phillips: “Nid yw masnachwyr twyllodrus fel Mr Phillips yn gweld y rhwymedigaethau sydd ganddynt i'w cwsmeriaid; maen nhw ond yn eu gweld fel ffordd o wneud arian.

“Mae'r adran Safonau Masnach yn ddigyfaddawd o ran ymchwilio i fusnesau sy'n herio'r gyfraith ac yn targedu pobl agored i niwed. Mae'r gwasanaeth yn hyrwyddo cynllun cymeradwyo masnachwyr a gynhelir gan Safonau Masnach Cenedlaethol o'r enw ‘Buy With Confidence’.

“Caiff masnachwyr cyfreithlon a chyfrifol eu hannog i gysylltu â'r adran er mwyn ymuno â'r cynllun. Dylai defnyddwyr edrych ar wefan ‘Buy With Confidence’ er mwyn dod o hyd i fasnachwyr cymeradwy”.

Os hoffech roi gwybod am unrhyw ddigwyddiadau o'r fath, cysylltwch â Gwasanaeth Defnyddwyr Cyngor i Bopeth ar 0808 2231144 i siarad â chynghorydd yn Gymraeg, neu 0808 2231133 yn Saesneg.

 

Erthygl flaenorolErthygl Nesaf
Your session will expire in xx.xx. Do you wish to Continue or Log Out
Your session will expire in xx.xx
Continue or Log Out