Yn cynrychioli holl wasanaethau safonau masnach ledled Cymru
Representing all trading standards services across Wales

Ymgyrch amlasiantaeth yn atafaelu cerbydau, teganau ffug, a fêps a sigaréts anghyfreithlon


Cynhaliodd swyddogion o Dimau Safonau Masnach a Gorfodi Gwastraff y cyngor, mewn cydweithrediad â Heddlu De Cymru, gyfres o gyrchoedd ar ôl i guddwybodaeth ddod i law am werthu fêps a thybaco anghyfreithlon a gwaredu gwastraff busnes cysylltiedig.

Cafodd tybaco anghyfreithlon ei ddarganfod yn cael ei guddio ar safleoedd busnes ac mewn cerbydau a oedd wedi'u parcio gerllaw, drwy chwilio'n drylwyr a defnyddio cŵn synhwyro cyffuriau.

Gwelwyd bod fêps tafladwy anghyfreithlon yn cael eu gwerthu'n agored ar y safleoedd hyn, a daethpwyd o hyd i ddoliau Labubu ffug a allai fod yn ddiogel ar un safle.

Yn ystod ymweliad dilynol â safle arall, gwelwyd bod mwy o fêps anghyfreithlon a doliau Labubu ffug ar werth yno. Bydd teganau ffug yn aml yn torri deddfwriaeth ddiogelwch, a allai achosi peryglon difrifol i blant.

Mae hyn yn ychwanegol at weithgareddau eraill y mae swyddogion Safonau Masnach wedi ymgymryd â nhw dros yr ychydig fisoedd diwethaf, gan gynnwys gorchmynion cau a chamau ffurfiol, ac yn sgil un o'r rhain bydd un busnes yn cael ei ddedfrydu yn Llys y Goron Abertawe ym mis Hydref am werthu tybaco a fêps anghyfreithlon.

Yn ystod yr ymgyrch ar y cyd, llwyddodd swyddogion Gorfodi Gwastraff Cyngor Castell-nedd Port Talbot hefyd i ddod o hyd i unigolyn nad oedd wedi talu Hysbysiad Cosb Benodedig yn flaenorol mewn perthynas â throseddau gwastraff ac a oedd wedi symud o'i hen gyfeiriad. Mae'r unigolyn bellach wedi talu'r Hysbysiad Cosb Benodedig a oedd yn ddyledus.

Dywedodd y Cynghorydd Cen Phillips, sef Aelod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot dros Natur, Twristiaeth a Llesiant: “Mae'r ymgyrch hon yn dangos manteision rhannu gwybodaeth a chydweithredu rhwng asiantaethau.

“Mae'r busnesau hyn yn mynd ati'n fwriadol i danseilio ymdrechion i ddiogelu iechyd a diogelwch y cyhoedd drwy werthu cynhyrchion peryglus ac anghyfreithlon. Mae'r ffaith eu bod yn cuddio eu nwyddau yn dangos eu bod yn gwbl ymwybodol eu bod yn torri'r gyfraith.”

Os bydd gennych unrhyw wybodaeth am werthu tybaco neu fêps anghyfreithlon, ffoniwch Crimestoppers ar 0800555111 neu ewch i https://crimestoppers-uk.org/give-information/forms/pre-form

Yn dilyn yr ymgyrch ar y cyd, mae'r ymchwiliadau'n parhau.

Erthygl flaenorol
Your session will expire in xx.xx. Do you wish to Continue or Log Out
Your session will expire in xx.xx
Continue or Log Out