Yn cynrychioli holl wasanaethau safonau masnach ledled Cymru
Representing all trading standards services across Wales

Codi ymwybyddiaeth o fasnachwyr twyllodrus a throseddau stepen drws


Gall masnachwyr twyllodrus effeithio ar unrhyw un, ond yn aml caiff yr henoed a phobl ddiamddiffyn eu targedu gan bobl sy’n cynnig gwasanaethau gwelliannau i’r cartref.

Gall galwyr gynnig gwasanaethau megis glanhau ffenestri/gwteri, gwaith atgyweirio ar lwybrau a dreifs, gwaith to neu adeiladu, garddio a chynnal a chadw coed, a chael gwared ar fwsog oddi ar doeau a gallant ymddangos yn unigolion dymunol, ond maent yn troi i fod yn benderfynol ac yn ddarbwyllol yn gyflym iawn wrth ddechrau mynd drwy eu ‘sgript’ gwerthu.

Yn aml defnyddir technegau codi braw megis dweud bod gwteri’n gollwng a fydd yn achosi tamprwydd, gwreiddiau coed a fydd yn difrodi sylfaeni. Gall fod yn hawdd iawn i bobl gael eu twyllo gan bobl o’r fath.

Mae rhai masnachwyr hefyd yn ymweld â thai pobl i werthu cynnyrch cartref, gan honni eu bod wedi cael eu rhyddhau o’r carchar yn ddiweddar a bod y gwaith hwn yn rhan o’u cynllun adsefydlu. Defnyddir y twyll hwn yn aml i ddarganfod ble mae’r henoed a phobl ddiamddiffyn yn byw, a bydd y masnachwyr yn aml yn pasio’r wybodaeth hon ymlaen.

Mae Tîm Safonau Masnach y Cyngor yn rhybuddio preswylwyr i fod yn wyliadwrus iawn wrth agor y drws i alwyr diwahoddiad, a pheidio â chytuno i’r gwaith neu brynu nwyddau neu wasanaethau drwy alwad stepen drws.

Anogir trigolion hefyd i gadw llygad allan am eu cymdogion diamddiffyn a allai fod yn wynebu risg uwch o gael eu twyllo a rhoi gwybod am unrhyw bryderon i’r heddlu a’r Safonau Masnach.

Meddai’r Cynghorydd Alan James, Aelod Arweiniol Datblygu Lleol a Chynllunio:

“Mae masnachwyr twyllodrus a throseddau stepen drws yn peri risg, yn enwedig i breswylwyr hŷn a diamddiffyn yn Sir Ddinbych, felly mae’n bwysig bod pobl yn gwybod beth i’w wneud os ydyn nhw’n amau bod masnachwr sydd wedi bod i’w cartref yn masnachu’n amhriodol.

“Mae’n bwysig nad yw trigolion yn coelio’r tactegau codi braw, dulliau o werthu dan bwysau neu ostyngiadau o ran pris, ni fydd galwyr dilys yn meindio aros neu ddod yn ôl ar ôl i chi gael amser i wirio eu gwybodaeth.

“Rydym yn annog preswylwyr yn gryf i ymgyfarwyddo â chanllawiau’r Cyngor ar fasnachwyr twyllodrus a throseddau stepen drws trwy fynd i’n gwefan bwrpasol.”

I roi gwybod am fasnachwyr twyllodrus i Safonau Masnach, ffoniwch linell gymorth Gwasanaeth Dinasyddion Cyngor ar Bopeth ar 0808 223 1133. I gysylltu â chynghorydd sy'n siarad Cymraeg 0808 223 1144. Mewn argyfwng ffoniwch 999. Neu am ragor o wybodaeth ar sut i osgoi masnachwyr twyllodrus ewch i'n gwefan.

Erthygl flaenorol
Your session will expire in xx.xx. Do you wish to Continue or Log Out
Your session will expire in xx.xx
Continue or Log Out