Yn cynrychioli holl wasanaethau safonau masnach ledled Cymru
Representing all trading standards services across Wales

Ymgyrch yn targedu economi’r nos ledled Bwrdeistref Sirol Caerffili


Cafodd 'Ymgyrch GWIRIO' ei chynnal nos Wener 25 Gorffennaf 2025, gan gynnwys swyddogion o dimau Safonau Masnach a Thrwyddedu'r Cyngor. Fe wnaeth y tîm amlasiantaethol ymweld â sawl safle, gan gynnwys siopau diodydd trwyddedig, siopau cludfwyd a safleoedd tacsi, i wirio cydymffurfiaeth â Deddf Trwyddedu 2003 ac i helpu sicrhau amgylchedd diogel i'r cyhoedd.

Yn ystod yr ymgyrch, fe wnaeth gwirfoddolwr 14 oed – o dan oruchwyliaeth agos Safonau Masnach – gynnal cyfres o bryniannau prawf alcohol. Methodd un safle yn Aberbargod trwy werthu alcohol i'r gwirfoddolwr dan oed. Mae'r busnes bellach yn cael ei ymchwilio yn ffurfiol, gan ymgysylltu ar unwaith â Deiliad Trwydded y Fangre.

Cafodd sawl achos o ddiffyg cydymffurfio llai difrifol eu nodi hefyd, ac mae swyddogion yn gweithio'n agos gyda busnesau i'w cynorthwyo nhw i gyrraedd cydymffurfiaeth lawn.


Dywedodd y Cynghorydd Philippa Leonard, Aelod Cabinet dros Ddiogelu'r Cyhoedd a Thrwyddedu:

"Mae'r ymgyrch hon yn tynnu sylw at ein hymrwymiad cryf i amddiffyn pobl ifanc a sicrhau bod busnesau ledled y Fwrdeistref Sirol yn gweithredu o fewn y gyfraith. Mae'r achos yn Aberbargod yn dangos yn glir na fydd achosion o dorri rheolau yn cael eu goddef a dylai weithredu fel rhybudd i eraill. Rydyn ni’n benderfynol o gynnal safonau uchel a byddwn ni’n parhau i weithio gyda'n partneriaid i sicrhau bod Caerffili yn parhau i fod yn lle diogel, cyfrifol a chroesawgar i bawb."

I roi gwybod am bryderon, ffoniwch 01443 866750 neu e-bostio trwyddedu@caerffili.gov.uk neu safonaumasnach@caerffili.gov.uk

Erthygl flaenorolErthygl Nesaf
Your session will expire in xx.xx. Do you wish to Continue or Log Out
Your session will expire in xx.xx
Continue or Log Out