Yn cynrychioli holl wasanaethau safonau masnach ledled Cymru
Representing all trading standards services across Wales

Jonathan Lewis Trading – dedfrydu dyn am dwyll a’i orchymyn i dalu £11,000 yn ôl i gwsmeriaid


Clywodd Llys y Goron Abertawe ar 21 Gorffennaf 2025, fod preswylwyr yng Nghastell-nedd Port Talbot ym mis Gorffennaf 2022 wedi derbyn taflenni’n hysbysebu dyfynbrisiau am ddim a ‘dim taliadau ymlaen llaw’ gan arbenigwyr tarmacio tramwyfeydd (driveways) Jonathan Lewis Trading.

Dywedwyd wrth y llys fod un cwsmer wedi cytuno i dalu £3,000 i gael gosod tarmac ar dramwyfa. Cwblhawyd y gwaith yn sydyn a thalwyd y masnachwr ag arian parod.

Yn fuan wedyn, sylwodd y cwsmer fod ansawdd y gwaith yn sâl a bod y tarmac wedi dechrau caenu a tholcio, ac roedd wedi dechrau lledaenu ar i lwybr cyhoeddus.

Cysylltodd ail gwsmer â Jonathan Lewis Trading ar ôl derbyn taflen, a gofynnodd am batrwm diemwnt ynghanol tramwyfa, ynghyd â gwaith arall. Dyfynnwyd pris o £8,000 i’r cwsmer pe bai’r gwaith yn digwydd cyn mis Ionawr, fel arall, byddai wedi costio “£12,000 oherwydd costau deunyddiau a staff”. Aeth y cwsmer ymlaen i arbed £4,000.

Talwyd am y gwaith drwy drosglwyddiad banc. Clywodd y llys fod y gwaith yn dila, roedd y siâp diemwnt allan ohoni, roedd cerrig rhwng y palmant a’r dramwyfa heb eu hunioni’n iawn, ac roedd ‘bylchau cam’. Hefyd, chafodd y gwaith byth mo’i orffen.

Ni chafodd y naill na’r llall o’r cwsmeriaid a gwynodd gyfnod gofynnol o 14 diwrnod o hawl i ganslo, ac er yr hyn a honnwyd ar y daflen, gofynnwyd i’r ddau gwsmer dalu ymlaen llaw.

Ar ôl gwneud mwy o ymchwil, clywodd y llys, canfu swyddogion Safonau Masnach mai enw go iawn Jonathan Lewis o Jonathan Lewis Trading oedd John William Price.

Ar ôl cysylltu ag ef, comisiynodd Swyddogion Safonau Masnach Cyngor Castell-nedd Port Talbot syrfëwr meintiau i archwilio’r gwaith.

Canfu’r syrfëwr fod y gwaith ar dramwyfa un cwynwr yn dila, heb ei orffen ac yn anunion, a bod y cwynwr wedi cael ei orfodi i ordalu, gan ychwanegu y dylai’r gwaith fod wedi denu pris o £600-£700 yn hytrach na £3,000. Ychwanegodd y syrfëwr fod y dramwyfa arall hefyd wedi’i gorbrisio’n ddifrifol, am £8,000, am fod y deunyddiau a ddefnyddiwyd ond yn costio rhwng £1,500 a £1,800.

Clywodd y llys fod angen clirio ac ailosod y ddwy dramwyfa’n llwyr wedyn, a’i hailosod am £2,000 a £3,000 yn eu tro.

Hefyd, yn ystod ymchwiliad i ollwng dau lwyth anghyfreithlon o wastraff yng Nghastell-nedd Port Talbot, sefydlodd Adran Gorfodi Gwastraff Cyngor Castell-nedd Port Talbot fod y gwastraff wedi cael ei gludo gan Jonathan Price ar ôl iddo ddosbarthu taflenni i dai. Mynychodd Price gyfweliad ffurfiol a gynhaliwyd ar y cyd rhwng Safonau Masnach a Gorfodi Gwastraff, ble atebodd bob cwestiwn â’r geiriau ‘dim sylw’.

Yn y llys, plediodd Mr Price yn euog i droseddau dan y Ddeddf Twyll 2006 am wneud cynrychioliadau ffug fod y prisiau a ddyfynnwyd yn cynrychioli taliadau teg am y gwaith a wnaed. Cadarnhaodd hefyd ei fod wedi mynd â’r gwastraff i ffwrdd, ond honnodd mai gweithiwr iddo, heb ei enwi, oedd wedi gadael y gwastraff yn anghyfreithlon. Serch hynny, plediodd yn euog i ddwy drosedd dan a33(5) o Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990, yn y ffaith iddo achosi i’r gwastraff gael ei adael yn ymwybodol, waeth a roddodd unrhyw gyfarwyddiadau i hynny gael ei wneud ai peidio.

Yn y gwrandawiad dedfrydu yn Llys y Goron Abertawe, dedfrydwyd Jonathan William Price, 45, o Cowslip Drive, Penarth i 16 mis dan glo, wedi’i ohirio am ddwy flynedd, am droseddau twyll yn ymwneud â’r digwyddiadau gosod tarmac, a thri mis dan glo wedi’i ohirio am ddwy flynedd am droseddau’r Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd, yn ymwneud â gadael gwastraff yn anghyfreithlon. Mae’r ddwy ddedfryd i’w gweithredu ochr yn ochr. Fe’i gorchmynnwyd hefyd i gwblhau 250 awr o waith di-dâl, a 25 dydd o weithgaredd adsefydlu. Fe’i gorchmynnwyd i dalu iawndal o £3,000 a £8,000 i’r ddau oedd wedi cwyno.

Dywedodd y Cynghorydd Cen Phillips, Aelod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot â chyfrifoldeb dros Safonau Masnach a Diogelu’r Cyhoedd:

“Rhaid i breswylwyr fod yn effro er mwyn osgoi dod yn ysglyfaeth i fasnachwr twyllodrus. Peth da yw gweld fod ein swyddogion Safonau Masnach a’n tîm Gorfodi Gwastraff wedi cydweithio i ddod â’r erlyniad hwn gerbron y llys.”

Os oes gennych chi broblem â masnachwr, cysylltwch â Gwasanaeth Defnyddwyr Cyngor ar Bopeth ar 08089 223 1133, neu 0808 223 1144 i gysylltu â chynghorydd Cymraeg.

Llun Maria Lupan ymlaen Unsplash

Erthygl flaenorolErthygl Nesaf
Your session will expire in xx.xx. Do you wish to Continue or Log Out
Your session will expire in xx.xx
Continue or Log Out