Yn cynrychioli holl wasanaethau safonau masnach ledled Cymru
Representing all trading standards services across Wales

Rhybudd am ddoliau Labubu ffug


Mae teganau Labubu go iawn yn cael eu cynhyrchu gan y cwmni Pop Mart yn Tsieina ac maent yn boblogaidd iawn ledled y byd.

Ond mae safonau masnach wedi rhybuddio y gall doliau ffug, sy'n aml yn rhatach o lawer na'r peth go iawn, fod yn hynod anniogel ac yn beryglus i blant bach.

Dywedodd y Cynghorydd Mark Spencer, aelod cabinet dros gymunedau a chwaraeon: “Rydyn ni eisiau i bobl fod yn ofalus iawn ac i wneud yn siŵr eu bod yn prynu eu doliau Labubu oddi wrth gyflenwr ag enw da. Os yw cynnig yn ymddangos yn rhy dda i fod yn wir, mae’n debygol ei fod yn ffug.

“Hoffwn ddiolch i'n swyddogion am gyflawni eu rhan nhw wrth dynnu eitemau a allai fod yn beryglus oddi ar y strydoedd. Gallant roi cyngor i fusnesau a cheisio gweithio gyda nhw cyn cymryd camau gorfodi.

“Fodd bynnag, rhaid i fusnesau wneud yn siŵr nad ydyn nhw'n stocio nac yn gwerthu doliau Labubu ffug neu byddwn yn cymryd camau.”

Bydd yr holl eitemau ffug a atafaelwyd gan safonau masnach yn cael eu dinistrio.

Erthygl flaenorolErthygl Nesaf
Your session will expire in xx.xx. Do you wish to Continue or Log Out
Your session will expire in xx.xx
Continue or Log Out