Swyddogion Safonau Masnach yn darganfod fêps tafladwy yn dal ar werth er gwaethaf gwaharddiad
Ar ôl cael gwybod am hyn, ymwelodd y swyddogion â siopau yng Nghastell-nedd Port Talbot a oedd yn dal i werthu'r fêps a oedd wedi'u gwahardd.
Yng Nghymru, daeth gwaharddiad ar werthu fêps tafladwy i rym ar 1 Mehefin, 2025, fel rhan o ymdrech ehangach ledled y DU i leihau effaith amgylcheddol fêps tafladwy ac amddiffyn plant.
Ymwelwyd â dwy siop a daethpwyd o hyd i gyfanswm o 67 o fêps tafladwy. Ar ôl i'r swyddogion siarad â pherchnogion y siopau, gwnaeth y busnesau ildio'r fêps o'u gwirfodd er mwyn iddynt gael eu gwaredu.
Mae'r hyn sy'n gyfystyr â fêp nad yw'n cydymffurfio â'r rheoliadau wedi'i nodi yn Rheoliadau Diogelu'r Amgylchedd (Fêps Untro) (Cymru) 2024. Ystyr fêp untro yw fêp nad yw wedi cael ei ddylunio na'i fwriadu i gael ei ailddefnyddio, ac mae hyn yn cynnwys unrhyw fêp na ellir ei ail-lenwi neu ei ailwefru, neu'r naill na'r llall.
Caiff fêp ei ystyried yn un na ellir ei ailwefru os oes ganddo fatri na ellir ei ailwefru a/neu goil na ellir ei brynu ar wahân a'i amnewid yn hawdd.
Y rhan o'r elfen wresogi a ddefnyddir i anweddu e-hylifau yw'r coil. Yn achos fêp ailddefnyddiadwy, mae'n bosibl i ddefnyddwyr dynnu'r coil ei hun allan a gosod un newydd yn ei le, neu dynnu'r pod neu'r getrisen sydd am y coil a gosod un newydd yn ei le neu yn ei lle.
Caiff fêp ei ystyried yn un na ellir ei ail-lenwi os oes ganddo gynhwysydd untro, fel pod wedi'i lenwi ymlaen llaw na ellir ei brynu ar wahân a'i amnewid, ac os na ellir ail-lenwi'r tanc neu'r pod.
Bydd y rhain yn cael eu gwaredu'n ddiogel yn unol â'r rheoliadau amgylcheddol a chaiff llythyr rhybuddio ei anfon i'r busnesau yn rhoi gwybod iddynt y caiff camau mwy ffurfiol eu cymryd (gan gynnwys hysbysiadau cosb benodedig, a'r posibilrwydd o erlyniad) os cânt eu dal â fêps untro yn eu meddiant gyda'r bwriad o'u cyflenwi yn y dyfodol.
Mae rhestr o gynhyrchion cyfreithlon hysbysedig i'w gweld yn adran MHRA o wefan Gov.uk yn: https://cms.mhra.gov.uk/ecig-new
Dywedodd y Cyngh. Cen Phillips, sef Aelod Cabinet y cyngor dros Natur, Twristiaeth a Llesiant: “Mae'r gwaharddiad ar fêps tafladwy yn bodoli er mwyn diogelu'r cyhoedd a'r amgylchedd ac mae wedi cael cryn dipyn o gyhoeddusrwydd.
“Mae fêps tafladwy yn broblem sylweddol am eu bod yn cynnwys deunyddiau peryglus y mae'n anodd eu gwaredu'n ddiogel ac am fod pobl ifanc o dan 18 oed yn eu prynu'n aml.”
Os oes gennych unrhyw wybodaeth am werthu fêps anghyfreithlon, neu werthu fêps i bobl ifanc o dan 18 oed, cysylltwch â Gwasanaeth Defnyddwyr Cyngor ar Bopeth ar 0808 223 1144 i siarad â rhywun yn Gymraeg neu 0808 223 1133 i siarad â rhywun yn Saesneg, neu e-bostiwch tsd@npt.gov.uk.