Y chwiw ddiweddaraf am deganau 'Tik Tok' yn arwain at atafaelu teganau ffug yn Abertawe
Ymwelodd Tîm Safonau Masnach Cyngor Abertawe â mwy na dwsin o siopau yn y ddinas yn ddiweddar gan atafaelu mwy na 1,500 o deganau meddal a chylchoedd allweddi 'Labubu' ffug.
Mae'r teganau Labubu, a gynhyrchir gan gwmni Pop Mart, wedi dod yn gynyddol yn rai o'r teganau mwyaf casgliadwy y mae mawr alw amdanynt o gwmpas y byd, gyda'r teganau'n cael eu hailwerthu mewn siopau ac ar-lein am ddwbl neu deirgwaith eu pris gwreiddiol.
Daw'r teganau ar ffurf cylchoedd allweddi a theganau meddal ac fe'u pecynnir fel 'blychau dall' - sy'n golygu nad ydych yn gwybod pa degan y byddwch chi'n ei gael nes i chi agor y deunydd pecynnu.
Mae sêr byd-eang gan gynnwys Dua Lipa a Rhianna wedi cael tynnu eu lluniau â'r teganau, gan helpu i greu chwiw enfawr amdanynt ac mae llawer o bobl eraill yn dangos eu tegan newydd ar Tik Tok
Mae'r atafaeliad teganau diweddaraf yn rhan o ymgyrch barhaus y cyngor yn erbyn teganau ffug ac anniogel, sy'n cael eu hystyried yn beryglus i blant ifanc.
Meddai Rhys Harries, Arweinydd Tîm Safonau Masnach Cyngor Abertawe, "Derbyniodd Safonau Masnach ambell gŵyn yn ddiweddar am y cynnyrch a phenderfynon nhw ymweld â nifer o siopau lleol i weld a oeddent yn cael eu gwerthu.
"Rydym wedi ymweld â mwy na dwsin o siopau hyd yma ac wedi atafaelu nifer mawr o'r teganau hyn. Dywedodd rhai siopau wrthym eu bod wedi gwerthu eu stoc gyfan oherwydd y galw. Nid yw llawer o siopau'n ymwybodol hefyd eu bod yn gwerthu teganau ffug, gan gredu eu bod yn gyfreithlon.
"Mae angen i fusnesau lleol fod yn ymwybodol o'r hyn y maen nhw'n ei brynu i'w ailwerthu a deall y peryglon sy'n gysylltiedig â'r cynnyrch gwael ei wneuthuriad hwn.
"Dylai rhieni a phobl ifanc sydd efallai wedi prynu'r teganau hyn fod yn ymwybodol o'r peryglon hefyd.
"Mae rhai o'r teganau a atafaelwyd gennym wedi cael eu harchwilio ac mae pob un ohonynt o ansawdd gwael iawn a gellir eu tynnu'n oddi wrth ei gilydd yn hawdd. Mae hyn yn berygl tagu difrifol i fabanod a phlant ifanc."
Arweiniodd y cyngor ymgyrch atafaelu teganau ffug yn Llundain yn ddiweddar lle'r atafaelwyd gwerth bron £10 miliwn o deganau ffug o nifer o warysau.
Meddai David Hopkins, Aelod y Cabinet dros Wasanaethau a Pherfformiad Corfforaethol, "Mae'r atafaeliad teganau ffug diweddaraf hwn yn arwyddocaol o ran yr effaith gadarnhaol y mae wedi'i chael, nid yn unig yn Abertawe, ond o gwmpas y DU.
"Mae ein Safonau Masnach wedi parhau i ddilyn trywydd teganau ffug a pheryglus i brif safleoedd dosbarthu y tu allan i Abertawe, gan ddangos eu hymrwymiad i ddiogelu defnyddwyr."