Yn cynrychioli holl wasanaethau safonau masnach ledled Cymru
Representing all trading standards services across Wales

Masnachwyr twyllodrus yn targedu cartrefi Powys


Mae Gwasanaeth Safonau Masnach Cyngor Sir Powys wedi cyhoeddi'r rhybudd ar ôl derbyn adroddiadau am fasnachwyr twyllodrus yn targedu eiddo yn Aberhonddu a'r Drenewydd, gan gynnig gwasanaethau atgyweirio tai a garddio.

Mae'r masnachwyr crwydrol hyn yn adnabyddus am weithredu drwy esgus cynnig gwaith tirlunio, garddio a chynnal a chadw cartrefi cyflym a fforddiadwy. Fodd bynnag, mae nifer ohonynt heb unrhyw hyfforddiant na phrofiad ffurfiol, ac mae eu gwaith yn aml o safon isel, yn rhy ddrud, neu'n anghyflawn.

Mae rhai o'r arwyddion amlwg ar gyfer adnabod tirlunwyr twyllodrus, fel y'u gelwir, yn cynnwys prisiau rhad, dyfynbrisiau llafar yn unig, dim geirdaon, cynigion i ddechrau ar unwaith a gofyn am arian parod ymlaen llaw.

Mae'r cyngor hefyd yn atgoffa pobl i fod yn ofalus o unrhyw alwadau digroeso i'w cartref. Dylai unrhyw un sy'n cael rhywun yn ymddangos ar eu stepen drws, neu sy'n teimlo dan fygythiad ffonio'r heddlu ar 101.

Dywedodd y Cynghorydd Richard Church, Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddio: "Rydym am gadw ein cymunedau'n ddiogel ac mae hyn yn cynnwys amddiffyn pobl rhag masnachwyr twyllodrus a throseddau ar ein stepen drws.

"Mae garddwyr twyllodrus yn aml yn manteisio ar y rhai sy'n agored i niwed, yn enwedig yr henoed. Mae'n bwysig iawn bod pobl yn cadw llygad am yr arwyddion, yn parhau i fod yn wyliadwrus ac yn cadw llygad am ffrindiau, perthnasau a chymdogion oedrannus."

Mae'r gwasanaethau cyffredin a gynigir gan fasnachwyr twyllodrus a galwyr di-wahoddiad yn cynnwys gwaith adeiladu cyffredinol, tirlunio a garddio, toi, atgyweiriadau a chynnal a chadw ac ail-wynebu o flaen y tŷ. Mae'r prisiau a godir fel arfer yn ormodol a bydd unrhyw un sy'n derbyn y gwaith yn talu llawer mwy nag a fwriadwyd. Mae'r gwaith hefyd yn aml o ansawdd gwael iawn, gall fod yn beryglus ac mewn rhai achosion nid yw hyd yn oed yn cael ei wneud.

Os bydd darpar gwsmeriaid yn penderfynu cyflogi crefftwr anhysbys, dyma yw cyngor y Gwasanaeth Safonau Masnach:

  • Gwiriwch fanylion adnabod y masnachwyr, yn enwedig unrhyw rif ffôn a roddir
  • Gwnewch ymchwil ar y rhyngrwyd gan gynnwys gwirio am unrhyw adolygiadau negyddol
  • Gofynnwch i ffrindiau neu gymdogion a ydynt wedi clywed am y cwmni, ac os yw'n lleol, gwiriwch i sicrhau bod eu hadeiladau lle maen nhw'n dweud eu bod nhw
  • Gofynnwch i'r masnachwr am eirda, ac os yn bosibl, gweld enghraifft o'u gwaith
  • Mae'n ddoeth defnyddio masnachwr sy'n aelod o gymdeithas fasnach, ond gwiriwch yr hawliad gyda'r corff masnach cyn eu cyflogi.
  • Gofynnwch am ddyfynbris ysgrifenedig cyn bwrw ymlaen. Gwnewch yn siŵr bod enw a chyfeiriad y masnachwr arno a bod pris y gwaith yn glir.
  • Cadwch nodyn o unrhyw fanylion cerbyd gan gynnwys y rhif cofrestru.
  • Peidiwch byth â rhoi arian nes bod y gwaith wedi'i gwblhau i'ch boddhad. Ceisiwch dalu gyda siec neu gerdyn credyd bob amser - peidiwch byth â chael eich perswadio i fynd i'r banc neu'r gymdeithas adeiladu i dynnu arian parod.

Mae deddfwriaeth yn ei gwneud yn ofynnol i alwyr di-wahoddiad roi 'hysbysiad canslo' i ddefnyddwyr, gan roi 14 diwrnod iddynt ganslo'r contract a wnaed ar gyfer unrhyw waith dros £42. Mae methu â rhoi hysbysiad canslo yn y modd cywir yn drosedd.

Dylai unrhyw un sy'n credu y gallent fod yn ddioddefwr neu sy'n credu y gallai rhywun y maent yn ei adnabod fod wedi bod yn ddioddefwr, gysylltu â llinell gymorth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth am ddim ar 0808 223 1133, neu i gysylltu â chynghorydd sy'n siarad Cymraeg, ffonio 0808 223 1144.

Erthygl flaenorol
Your session will expire in xx.xx. Do you wish to Continue or Log Out
Your session will expire in xx.xx
Continue or Log Out