Yn cynrychioli holl wasanaethau safonau masnach ledled Cymru
Representing all trading standards services across Wales

Tîm Safonau Masnach yn cyhoeddi rhybudd ‘corrach bwgan ffug’ i rieni


Mae Tîm Safonau Masnach y cyngor wrthi’n barhaus yn cadw llygad am nwyddau ffug a chynnyrch sy’n diystyru deddfwriaeth ddiogelwch, Yn achos teganau, gallai’r rhain gyflwyno peryglon difrifol i blant.

Meddiannwyd y teganau corrach brand Labubu o siop nad yw ei lleoliad yn cael ei ddatgelu yng Nghastell-nedd Port Talbot, ac maen nhw wrthi’n cael eu harchwilio.

Yn y cyfamser, mae’r Tîm Safonau Masnach yn cynnig y cyngor canlynol i ddefnyddwyr er mwyn sicrhau eu bod nhw’n para i ‘siopa’n saff’:

  • Gwiriwch nwyddau a’u pecynnau’n ofalus. Ar deganau, dylid gweld rhybuddion oedran a symbolau diogelwch fel nod CE neu UKCA. Gwiriwch am gamgymeriadau sillafu neu labeli o safon isel; mae hyn fel arfer yn gollwng y gath o’r cwd.
  • Prynwch gan werthwyr ag enw da, er mwyn i chi allu dychwelyd y nwyddau os oes problem yn codi.
  • Gwiriwch y pris. Byddwch yn amheus os yw’n llawer iawn rhatach na’r disgwyl.

Yn ôl y Cynghorydd Cen Phillips, aelod Cabinet y Cyngor dros Natur, Twristiaeth a Llesiant: “Oherwydd y ffaith fod y teganau ffug posib hyn wedi’u darganfod, dyma gyfle i roi rhybudd i ddefnyddwyr, ac yn enwedig i rieni, i fod yn arbennig o wyliadwrus.

“Os canfyddir fod y teganau’n rhai ffug, mae ganddyn nhw’r potensial i fod yn hynod beryglus i blant, gan gynnwys eu gwneud yn agored i rai cemegau a pheryglon tagu oherwydd darnau bychain.”

Bydd teganau ffug yn aml heb gael eu profi’n gywir, ac mae’r cyngor yn annog unrhyw un sy’n bryderus am ddiogelwch teganau i gysylltu â nhw. Gall defnyddwyr gysylltu â Gwasanaeth Defnyddwyr Cyngor Ar Bopeth ar 0800 223 1123 a gall masnachwyr gysylltu â Safonau Masnach ar (01639) 686877 tsd@npt.gov.uk

Mae Labubu yn fath o gorachod bwgan a grëwyd gan y cynllunydd Kasing Lung a’u marchnata gan y gwerthwyr o China Pop Mart. Labubu yw enw’r prif gymeriad yn y gyfres hefyd.  

Erthygl flaenorolErthygl Nesaf
Your session will expire in xx.xx. Do you wish to Continue or Log Out
Your session will expire in xx.xx
Continue or Log Out