Yn cynrychioli holl wasanaethau safonau masnach ledled Cymru
Representing all trading standards services across Wales

Gorfodi cau siop fêps ym Mhort Talbot


Cymeradwyodd Barnwr Rhanbarth yn Llys Ynadon Abertawe gau Vape Land yn Commercial Road, Tai-bach, dan Adran 80 o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014.

Canfuwyd fod y fangre’n gwerthu tybaco a sigaréts ffug ac anghyfreithlon (heb dalu treth) yn ogystal â fêps anghyfreithlon a gor-fawr ar sawl achlysur ers mis Mehefin y llynedd.

Rhoddodd Uwch Swyddog Ymchwiliadau o Dîm Safonau Masnach y cyngor hanes cryno Vape Land i’r  Barnwr Rhanbarth, gan esbonio fod pwrcasiad prawf o dybaco rholio â llaw Amber Leaf wedi’i wneud ar 12 Mehefin 2024 gan gydweithwyr fel rhan o ymgyrch genedlaethol – cadarnhaodd deiliaid y nod masnach yn ddiweddarach ei fod yn ffug.

Ym mis Awst 2024, cynhaliodd Heddlu De Cymru a Swyddogion Gorfodi Cyngor Castell-nedd Port Talbot archwiliad yn Vape Land a arweiniodd at feddiannu fêps, tybaco dail a sigaréts.

Dywedwyd ymhellach wrth y Barnwr Rhanbarth fod mwy o gwynion wedi’u derbyn ynghylch gwerthu fêps untro, sigaréts a thybaco nad oedden nhw’n cydymffurfio, ynghyd â gwerthu fêps i bobl dan 18 oed.

O ganlyniad, digwyddodd cyrch pellach gyda Heddlu De Cymru ym mis Ebrill eleni pan feddiannwyd fêps, sigaréts a thybaco dail. Canfuwyd fod pob un o’r fêps untro a gymerwyd yn cynnwys llawer gormod o’r hylif a ganiateir i nwyddau o’r fath. 

Cytunodd y Barnwr Rhanbarth i ddyfarnu’r gorchymyn cau mewn gwrandawiad ar 12 Mehefin 2025, ar ôl clywed gan y swyddog archwilio mai barn y cyngor oedd na fyddai’r niwsans yn dod i ben oni bai fod y siop yn cael ei chau.

Clywodd y llys nad oedd modd olrhain y person sydd wedi bod yn lesio’r siop ers mis Ebrill 2024 i gynnal cyfweliad.

Daeth hi’n anghyfreithlon gwerthu a chyflenwi fêps untro (tafladwy) ledled y DU ar 1 Mehefin 2025. Mae’r gwaharddiad hwn yn berthnasol i bob busnes, ar lein ac mewn siopau, waeth a yw’r fêps yn cynnwys nicotin ai peidio.

Y rhesymeg y tu ôl i’r gwaharddiad yw mynd i’r afael ag effaith amgylcheddol fêps untro, sy’n aml yn cael eu taflu’n anghywir ac sy’n cynnwys sylweddau niweidiol. Mae’r gwaharddiad hefyd yn gobeithio gwarchod plant a phobl ifanc, am fod fêps untro’n cael eu gweld yn apelgar gan fêpwyr dan oedran.

Yn aml, bydd fêps untro anghyfreithlon, fel y rhai a ganfuwyd yn Vape Land, yn dod mewn pecynnau a blasau lliwgar sy’n apelio at blant. Gall oblygiadau iechyd meddwl ar blant hawdd creu argraff arnynt fod yn hirdymor a difrifol dros ben.

Dywedodd Uwch Swyddog Ymchwiliadau Cyngor CNPT wrth y Barnwr Rhanbarth: “Roedd y busnes oedd yn masnachu o’r fangre hon yn gweithredu â difaterwch hollol wynebgaled at y canlyniadau y byddai’r plant yn eu dioddef oherwydd defnyddio’r fêps hyn.”

Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot dros Natur, Twristiaeth a Llesiant, y Cynghorydd Cen Phillips: “Hoffwn longyfarch ein Swyddogion Safonau Masnach am lwyddo i gael y gorchymyn cau hwn, a hoffwn annog unrhyw un sy’n becso am eu cymuned ac iechyd eu plant i riportio unrhyw wybodaeth sydd ganddynt am werthu tybaco neu fêps yn anghyfreithlon.”

Erthygl flaenorolErthygl Nesaf
Your session will expire in xx.xx. Do you wish to Continue or Log Out
Your session will expire in xx.xx
Continue or Log Out