Siocled Dubai – Datganiad i'r Wasg wedi'i anelu at Ddefnyddwyr
Mae llawer o'r cynhyrchion hyn sydd wedi'u mewnforio yn rhai nad ydynt wedi cael eu gwneud ar gyfer marchnad y DU, ac felly nid ydynt yn cydymffurfio â gofynion gwybodaeth am fwyd y DU, gan olygu y gallai defnyddwyr wynebu risg yn sgil y canlynol:
- Labeli coll, anghywir neu gamarweiniol
- Alergenau heb eu datgan neu wybodaeth am alergenau heb ei phwysleisio ar labeli
- Dilysrwydd cynhwysion
- Ychwanegion bwyd heb eu hawdurdodi
Mae'r adroddiadau gan ddefnyddwyr am ddiffyg cydymffurfiaeth yn ymwneud ag ychwanegion heb eu hawdurdodi, halogi cemegol, alergenau heb eu datgan, alergenau heb eu rhestru yn unol â gofynion y DU, presenoldeb bacteria pathogenaidd fel Salmonella spp. a phresenoldeb tocsinau a gynhyrchir gan lwydni.
Felly, rydym yn cynghori ein defnyddwyr i fod yn wyliadwrus a darllen y labeli cyn prynu’r cynhyrchion hyn, gan fod yn arbennig o ymwybodol o'r canlynol:
- Rhaid i fwyd a gaiff ei werthu yn y DU fodloni gofynion gwybodaeth am fwyd y DU. Felly, dylai'r wybodaeth ar y labeli fod i'w gweld yn glir ac yn ddarllenadwy yn Saesneg.
- Dylai cynhwysion alergenig gael eu pwysleisio yn y rhestr o gynhwysion, a hynny fel arfer mewn testun trwm.
- Mae angen i'r holl ychwanegion bwyd ymddangos yn glir ar y label yn y rhestr o gynhwysion ynghyd ag enw'r ychwanegyn neu ei rif “E”.
- Ar ben hynny, os caiff y lliwiau bwyd canlynol eu defnyddio yn y cynnyrch: Tartrazine (E 102), Sunset yellow FCF (E 110), Quinoline yellow (E 104), Azorubine, Carmoisine (E 122), Ponceau 4R, Cochineal Red A (E 124), ac Allura red AC (E 129); rhaid i rybudd yn dweud “may have an adverse effect on activity and attention in children” fod yn weladwy.