Yn cynrychioli holl wasanaethau safonau masnach ledled Cymru
Representing all trading standards services across Wales

Siop gyfleustra a siop barbwr yn Llai yn cael eu cau gan Safonau Masnach am werthu tybaco a fêps anghyfreithlon


Pan ymwelodd Swyddogion Safonau Masnach, gyda chymorth Heddlu Gogledd Cymru, â’r safle y diwrnod blaenorol i gyflwyno dogfennau llys, atafaelwyd rhagor o gynhyrchion anghyfreithlon gan gynnwys 6000 o sigaréts, 3kg o dybaco rholio (digon ar gyfer 3000 o roliau) a 50 o fêps. Cyfanswm y gwerth stryd a amcangyfrifir yw £2750. Mae’r ddau safle bellach wedi’u cloi a byddant ar gau am dri mis. Cafodd y cais am orchymyn cau ar gyfer trydydd safle yn Wrecsam ei ohirio am bythefnos er mwyn galluogi perchennog y busnes i fynychu’r llys, fodd bynnag, bydd y siop yn aros ar gau nes bod y mater yn dychwelyd i’r llys ddiwedd y mis.

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, yr Aelod Arweiniol dros Ddiogelu’r Cyhoedd, “Mae’r nifer fawr o siopau fêps sydd wedi agor yn y ddinas yn frawychus ac mae dod o hyd am yr ail dro i gynnyrch anghyfreithlon ar safle siop barbwr yr un mor bryderus. Byddwn yn parhau i roi pwysau ar y fasnach anghyfreithlon hon am ei bod hi’n bygwth iechyd plant ac oedolion ac yn dod â throsedd i’n cymuned. Byddwn yn annog unrhyw un sy’n pryderu, yn enwedig am iechyd plant ac sydd ag unrhyw wybodaeth am gyflenwi’r cynhyrchion anghyfreithlon hyn i roi gwybod amdano. Byddwn hefyd yn annog landlordiaid ac asiantau i fod yn ofalus iawn wrth gynnig rhentu neu brydlesu adeiladau manwerthu i sicrhau y bydd eu darpar denantiaid yn gweithredu’n gyfreithlon ac nad yw’n gwerthu cynnyrch anghyfreithlon. Pan fo tystiolaeth bod landlordiaid neu asiantau wedi chwarae rhan, bydd y Cyngor yn ymchwilio ac yn erlyn.

“Mae dros 5000 o bobl yng Nghymru yn marw bob blwyddyn o glefydau sy’n gysylltiedig ag ysmygu, ac mae’n lladd 1 o bob 2 defnyddiwr hirdymor. Mae mynediad hawdd at dybaco rhad yn cynyddu’r siawns y bydd plant yn datblygu caethiwed gydol oes i’r cynnyrch hynod gaethiwus hwn. Fel arfer, mae fêps anghyfreithlon yn cynnwys llawer mwy o nicotin na’r lefelau a ganiateir ac yn peri risg debyg o gaethiwed gydol oes. Oherwydd hyn byddwn yn ceisio tarfu cymaint â phosibl ar y fasnach hon drwy bob dull posib. 

Mae fêps tafladwy yn cael effaith fawr ar yr amgylchedd gyda miliynau’n cael eu taflu bob blwyddyn yng Nghymru. Mae pob fêp sy’n cael ei daflu yn cynnwys plastig, cydrannau electronig, batri a hylif gweddilliol. Nid yw’r rhan fwyaf ohonynt yn cael eu hailgylchu ac mae’r gwahanol rannau yn llygru pridd a dŵr. Mae’r rhai sy’n llwyddo i gyrraedd y system wastraff wedi achosi tanau mewn cyfleusterau ailgylchu gwastraff oherwydd y batri sydd gan bob eitem. Am y rhesymau hyn, o ddechrau mis Mehefin, bydd yn anghyfreithlon gwerthu fêps untro neu dafladwy unrhyw le yn y Deyrnas Unedig. Mae angen i fanwerthwyr fod yn siŵr eu bod wedi clirio unrhyw stoc o fêps tafladwy erbyn diwedd mis Mai.

Gellir rhannu gwybodaeth yn ddienw – ar-lein yn https://noifs-nobutts.co.uk/ neu dros y ffôn ar 029 2049 0621

Erthygl flaenorol
Your session will expire in xx.xx. Do you wish to Continue or Log Out
Your session will expire in xx.xx
Continue or Log Out