Yn cynrychioli holl wasanaethau safonau masnach ledled Cymru
Representing all trading standards services across Wales

Camau llym yn erbyn tybaco anghyfreithlon yn Sir Benfro


Mae ymgyrch aml-asiantaeth wedi arwain at atafaelu fêps a thybaco anghyfreithlon ynghyd ag arian parod o ddwy siop yn Sir Benfro, yn rhan o gamau llym yn erbyn y fasnach dybaco anghyfreithlon.

Cymerodd Swyddogion Safonau Masnach Rhanbarthol Arbenigol (o Ymgyrch CeCe), Tîm Safonau Masnach Cyngor Sir Penfro a Heddlu Dyfed-Powys, ran yn yr ymgyrch ar Dydd Iau Mawrth 13eg.

Yn ogystal â llwyth o gynhyrchion anghyfreithlon o ddau gar a ddefnyddiwyd i guddio cyflenwadau i ychwanegu at y stoc a oedd ar gael yn y siopau, atafaelwyd llawer iawn o arian parod yr amheuir ei fod o weithgarwch troseddol a phowndiwyd un cerbyd gan yr heddlu, am nad oedd ganddo dreth nac yswiriant.

Credir y byddai llawer o'r sigaréts a atafaelwyd wedi mynd i ddwylo plant a phobl ifanc yng nghymunedau tlotaf Cymru sy'n cael eu targedu gan droseddwyr sy'n gwerthu tybaco anghyfreithlon am gost sylweddol is.

Dywedodd y Cynghorydd Jacob Williams, Aelod Cabinet Cyngor Sir Penfro dros Wasanaethau Cynllunio a Rheoleiddio: "Mae cysylltiad cryf rhwng y fasnach tybaco anghyfreithlon â gweithgareddau troseddol eraill. Mae'n creu ffynhonnell rad o dybaco heb ei reoleiddio, ac yn tanseilio'r gwaith da sy'n cael ei wneud i helpu pobl o bob oed i roi'r gorau i ysmygu.

“Mae dyfeisiau fepio nad ydynt yn cydymffurfio hefyd yn peri pryder, yn enwedig gan eu bod yn boblogaidd ymhlith pobl ifanc. Gallant gynnwys llawer mwy o nicotin nag a ganiateir gan Reoliadau'r DU, gan beri risg ddifrifol o niwed oherwydd mae nicotin nid yn unig yn gaethiwus iawn, mae hefyd yn wenwynig. Ymhlith y cynhwysion gwenwynig eraill a geir mewn fêps ffug mae arsenig, plwm a fformaldehyd.”

Mae tua 6,000 o blant yng Nghymru yn dechrau ysmygu bob blwyddyn a bydd tri o bob pedwar o'r plant hynny yn mynd ymlaen i fod yn ysmygwyr hirdymor.

Mae ysmygu yn gaethiwed sy'n dechrau yn ystod plentyndod. Canfu arolwg diweddar gan ASH Cymru fod 76% o’r ysmygwyr yng Nghymru wedi rhoi cynnig ar eu sigarét gyntaf cyn yr oeddynt yn 18 oed.

Mae problemau diogelwch hefyd, gan y gall sigaréts ffug fod wedi'u halogi ag elfennau gwenwynig fel arsenig a phlwm o'i gymharu â brandiau dilys.

Ers lansio'r camau llym bedair blynedd yn ôl, mae Safonau Masnach a CThEF wedi bod yn casglu gwybodaeth am gangiau tybaco troseddol ac wedi atafaelu dros chwe miliwn o sigaréts. Mae mwy o gyrchoedd ledled Cymru wedi'u cynllunio yn ystod y misoedd nesaf.

“Mae angen i ni gadw tybaco allan o ddwylo plant, mae cynhyrchion tybaco rhad yn ei gwneud hi'n haws i blant ddechrau ysmygu, gan eu bod yn cael eu gwerthu am brisiau arian poced gan droseddwyr nad ydynt yn poeni am gyfreithiau sy’n cyfyngu ar oedran," meddai swyddogion o Ymgyrch CeCe.

“Mae Ymgyrch CeCe wedi arwain at y camau llymaf yn erbyn tybaco anghyfreithlon yng Nghymru ers datganoli.”

Ychwanegodd y Rhingyll Claire Evans o Heddlu Dyfed-Powys: "Mae gweithio gyda'n hasiantaethau partner gydag ymagwedd gadarn wedi bod yn llwyddiannus, a byddwn yn parhau i dargedu sefydliadau o'r fath sy'n gwerthu contraband anghyfreithlon yn Sir Benfro, gan atafaelu arian parod, cerbydau, ac unrhyw eiddo arall sy'n gysylltiedig â chynnal y gweithrediadau anghyfreithlon hyn.”

Os ydych chi'n meddwl bod rhywun yn gwerthu tybaco anghyfreithlon, ffoniwch Crimestoppers ar 0800 555 111 neu ewch i http://crimestoppers-uk.org. Gall eich gwybodaeth helpu i gadw'ch cymuned yn ddiogel ac yn iach.

Os hoffech roi'r gorau i ysmygu, cysylltwch â Helpa Fi i Stopio ar radffôn 0800 085 2219 neu ewch i https://www.helpafiistopio.cymru/

Erthygl flaenorol
Your session will expire in xx.xx. Do you wish to Continue or Log Out
Your session will expire in xx.xx
Continue or Log Out