Dros 100 o deganau ffug ac anniogel wedi'u hatafaelu
Mae dros 100 o deganau ffug ac anniogel wedi cael eu hatafaelu ar ôl i Swyddogion Safonau Masnach archwilio busnes lleol yn Rhondda Cynon Taf.
Cafodd y nwyddau, a gafodd eu prynu gan y busnes o'r manwerthwr ar-lein TEMU, eu hildio'n wirfoddol i Safonau Masnach. Roedd perchennog y busnes yn ofidus, wrth feddwl y gallai'r eitemau oedd ar werth fod wedi achosi niwed i'w gwsmeriaid.
Mae carfan Safonau Masnach y Cyngor yma i gynnig cyngor i gadw busnesau a'r cyhoedd yn ddiogel a bydd bob amser yn ceisio gweithio gyda busnesau i unioni pethau cyn cymryd unrhyw gamau gorfodi. Ar yr achlysur yma roedd perchennog y busnes yn hynod o ymddiheurol am ei hanwybodaeth o ran diogelwch teganau, fe ymgysylltodd yn llawn â Safonau Masnach i ddeall y rheoliadau yn well a chafodd cyngor ysgrifenedig llawn ei ddarparu.
Rydyn ni wedi dewis peidio ag enwi'r busnes oherwydd ei gydweithrediad sylweddol a'i dryloywder gyda’r Swyddogion Safonau Masnach.
Yn ystod y gwiriadau cychwynnol o'r teganau, canfu'r swyddog nad oedd unrhyw fanylion gwneuthurwr na chyfarwyddiadau yn cael eu harddangos arnyn nhw: er bod gyda nhw farc CE. Gan nad oedd yr holl labeli gofynnol eraill yn bresennol, mae'n debygol bod y marc CE wedi'i osod yn ffals ar y cynhyrchion. Mae hyn yn golygu ei bod yn debygol eu bod nhw ddim wedi cael eu profi o ran diogelwch, gan gynnwys cemegau a allai fod yn niweidiol ac yn wenwynig.
Sylwch: Lle mae marc UKCA/CE yn bresennol, ddylech chi ddim dibynnu ar hyn yn unig, dylai prynwyr hefyd gynnal gwiriadau eraill cyn penderfynu a ddylid prynu eitem.
Gan fod perchennog y busnes wedi prynu’r eitemau ar-lein gan fanwerthwr hysbys, roedd yn meddwl eu bod yn siŵr o fod yn ddiogel - fodd bynnag nid yw hyn bob amser yn wir. Dyma wers i’r cyhoedd ac i fusnesau - os yw’n swnio’n rhy dda i fod yn wir, mae’n debyg mai dyma ydy'r achos. Mae’r un rheolau’n berthnasol i werthwyr ar-lein a manwerthwyr y stryd fawr, ac mae’n bwysig i bawb wybod beth yw eu cyfrifoldebau cyn rhoi eitemau ar werth.
O ran eitemau ar-lein sy'n cael eu prynu gan gyflenwyr tramor, rhaid iddyn nhw gydymffurfio â holl ddeddfwriaeth y DU cyn iddyn nhw gael eu rhoi ar y farchnad.
Yn ogystal, os ydych chi'n fusnes ac yn defnyddio cyflenwr tramor, yna rydych chi'n dod yn Fewnforiwr nwyddau ac yn gyfrifol am yr holl wiriadau diogelwch a allai gynnwys profion ffisegol.
Yn dilyn y darganfyddiad bydd yr eitemau'n cael eu dinistrio a'u hailgylchu gan y garfan Safonau Masnach.
Dywedodd Rhian Hope, Pennaeth Diogelu'r Cyhoedd a Gwasanaethau Rheoleiddiol yng Nghyngor Rhondda Cynon Taf, nad oedd gan y teganau a atafaelwyd unrhyw wybodaeth weithgynhyrchu arnyn nhw.
“Mae hynny’n golygu ei bod yn debygol nad ydyn nhw wedi cael prawf diogelwch; mae'n bosibl bod y ffabrigau neu’r deunydd a ddefnyddiwyd yn wenwynig,” meddai.
Roedd gan rai teganau meddal label gyda'r marc CE - sy'n nodi eu bod yn cydymffurfio â safonau'r UE. Ond roedd y labeli hyn yn debygol o fod yn rhai ffug, gan ei gwneud hi'n anodd i brynwyr.
“Chwiliwch am yr wybodaeth am ble cafodd yr eitem ei chynhyrchu – dylai fod cyfeiriad yno,” meddai.
“Dylai pobl feddwl am y pris hefyd. Os yw'r pris yn rhy dda, dylai hynny fod yn arwydd i'ch rhybuddio mewn gwirionedd."
Meddai'r Cynghorydd Bob Harris, Aelod o'r Cabinet ar faterion Iechyd y Cyhoedd a Chymunedau:
“Mae angen i'r sawl sy'n chwilio am fargeinion fod yn ymwybodol bod modd i deganau ffug nad ydyn nhw’n cyrraedd y safon dorri ac achosi anafiadau neu beryglon tagu, mae modd i ddeunyddiau gwenwynig achosi llosgiadau a niwed difrifol, ac mae modd i deganau trydanol anghyfreithlon arwain at danau neu drydaniad.
“Nid yw'n anarferol i werthwyr twyllodrus fanteisio ar siopwyr sy’n ysu am brynu’r teganau poblogaidd sydd wedi'u gwerthu allan mewn manwerthwyr adnabyddus, trwy werthu fersiynau ffug. Yn yr achos yma cafodd perchennog y busnes ei thwyllo gan y nwyddau hefyd ac roedd hi’n siomedig y gallai ei busnes fod wedi achosi niwed yn ei chymuned leol – mae'r garfan Safonau Masnach bob amser ar gael i helpu busnesau er mwyn sicrhau eu bod yn cydymffurfio â chyfreithiau’r DU ac mae bob amser yn ceisio cynorthwyo busnesau lle caiff camgymeriadau gwirioneddol eu gwneud. Mae gorfodi bob amser yn ddewis olaf, a dim ond pan fydd yn credu bod cyfraith wedi'i thorri a fyddai'n achosi niwed i'r cyhoedd y caiff hyn ei wneud.
Mae perchennog y busnes wedi gweithio gyda’r garfan a diolch i'r drefn cafodd yr holl eitemau eu rhoi i'r garfan Safonau Masnach i’w gwaredu’n ddiogel.”
Mae Diogelwch Teganau yn fater difrifol. Dyma wiriadau mae modd i chi eu gwneud wrth brynu teganau -
-
Marciau UKCA/CE, Mae rhai marciau UKCA/CE yn cael eu gosod yn ffals ar eitemau gan wneud iddyn nhw edrych yn rhai diogel, felly dylech chi wirio hefyd am fanylion y gwneuthurwr gan gynnwys cyfeiriad/cod post
-
Gwiriwch am gyfarwyddiadau defnyddio/rhybuddion a chanllawiau ar ddefnydd sy'n briodol i oedran
-
Gwiriwch am ymylon miniog a/neu rannau rhydd
-
Prynwch gan fasnachwr cyfrifol bob amser
-
Cost, os yw'r eitem yn rhad iawn o'i chymharu â chynhyrchion tebyg eraill, gallai hynny fod yn arwydd bod modd iddi fod yn anniogel.
Gofynion Ychwanegol:
-
Mae angen i deganau â batri fod ag adran â sgriwiau lle mae'r batris yn cael eu storio
-
O ran teganau gyda magned, dylid gwirio nad yw'r magnedau yn rhy gryf
-
Mae angen i wisg ffansi fod â rhybudd tân oherwydd fflamadwyedd.
Os oes gan fusnesau neu’r cyhoedd unrhyw bryderon am Ddiogelwch Teganau, mae rhagor o wybodaeth ar gael ar y gwefannau canlynol: Toys | Business Companion Toys, Child Accident Prevention trust Toy Safety. Mae modd i chi hefyd gysylltu â Charfan Safonau Masnach y Cyngor drwy ffonio 01443 744288 neu drwy anfon e-bost: safonaumasnach@rctcbc.gov.uk.