Yn dilyn cwynion eu bod nhw’n gwerthu fêps i blant, tybaco anghyfreithlon a fêps nad oedden nhw’n cydymffurfio (h.y. rhai â thanciau gor-fawr), aed ar ymweliad â Market Vapes ar Heol yr Orsaf ar sawl achlysur dros gyfnod o 18 mis.
Yn ystod pob un o’r ymweliadau hyn, canfu swyddogion Safonau Masnach dybaco anghyfreithlon a fêps nad oedden nhw’n cydymffurfio, ac fe’u hatafaelwyd. Er gwaethaf newid mewn perchnogaeth ym mis Awst 2024, canfu ymweliad pellach ym mis Ionawr 2025 dybaco anghyfreithlon a fêps nad oedden nhw’n cydymffurfio unwaith eto.
Ar 6 Chwefror 2025, cafodd swyddogion Orchymyn Cau gan Lys Ynadon Abertawe ar gyfer Market Vapes, 45 Heol yr Orsaf, Port Talbot o dan y Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014. Mae hyn yn golygu fod y llys wedi gorchymyn y bydd yn rhaid i’r siop a’r eiddo fod ar gau am gyfnod o dri mis, gan ddod i ben ar 5 Mai 2025.
O ganlyniad i hyn, mae swyddogion wedi cymryd camau i sicrhau fod yr eiddo’n parhau ar gau, fel newid y cloeon. Gwneir gorchmynion o’r fath er mwyn ceisio atal ymddygiad gwrthgymdeithasol parhaus a gweithgareddau troseddol.
Bydd unrhyw un sy’n torri’r Gorchymyn drwy fynd i mewn i’r eiddo heb ganiatâd y cyngor yn tramgwyddo’r Gorchymyn ac yn agored i gael eu herlyn. Gall cosbau ar gyfer torri gorchymyn o’r fath gynnwys cael eich anfon i’r carchar ar unwaith.
Dywedodd y Cynghorydd Cen Phillips, Aelod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot dros Natur, Twristiaeth a Llesiant, y mae’i bortffolio’n ymdrin â Safonau Masnach a Gwarchod y Cyhoedd: “Bydd ein swyddogion yn defnyddio ystod gyflawn o rymoedd i ymdrin â busnesau sy’n gweithredu y tu fas i’r gyfraith.
“Mae fêps untro nad ydyn nhw’n cydymffurfio’n cael eu gwerthu’n aml mewn deunydd pecynnu lliwgar a blasau sy’n apelio at blant. Gall y canlyniadau ar blant hawdd gwneud argraff arnynt, sy’n prynu’r fêps hyn p’un ai ydyn nhw’n cydymffurfio ai peidio, fod yn hirdymor a difrifol. Dylai unrhyw fusnes a ganfyddir yn gwerthu eitemau o’r fath i blant ddisgwyl i’n swyddogion ddefnyddio’u grymoedd a gweithredu’n bendant.”
Bydd fêps untro’n cael eu gwahardd o 1 Mehefin 2025, a dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth am werthiant i bobl dan oed, gwerthu fêps nad ydyn nhw’n cydymffurfio neu dybaco anghyfreithlon, ffonio llinell gymorth defnyddwyr Cyngor Ar Bopeth ar 0808 223 1144 (Cymraeg) neu 0808 223 1133 (Saesneg).