Yn cynrychioli holl wasanaethau safonau masnach ledled Cymru
Representing all trading standards services across Wales

Siop yn Gilfach Goch yn derbyn dirwy am werthu bwyd ar ôl y dyddiad defnyddio olaf


Mae carfan Safonau Masnach Cyngor Rhondda Cynon Taf yn annog cwsmeriaid i wirio dyddiadau defnyddio olaf pan fyddan nhw'n prynu gan fod siop leol arall wedi'i chanfod yn euog o werthu bwyd ar ôl y dyddiad defnyddio olaf.

Mae P&R Convenience Store, sef siop Family Shopper yn y Gilfach Goch, wedi’i herlyn gan adran Safonau Masnach y Cyngor ar ôl iddi roi cwsmeriaid mewn perygl pan ganfuwyd ei bod yn gwerthu PEDAIR AR DDEG o eitemau bwyd y tu hwnt i’w hoes gywir. 

O dan Reoliadau Bwyd Cyffredinol 2004, mae’n drosedd torri neu fethu â chydymffurfio â darpariaethau penodol sy’n ymwneud â gofynion cyfraith bwyd, diogelwch bwyd, cyflwyno/arddangos bwydydd – neu labelu, olrhain, a thynnu'n ôl, adalw a hysbysu. Mae'r Rheoliadau'n nodi na fydd bwyd "yn cael ei roi ar y farchnad os yw'n anniogel". 

Cafodd y drosedd ei darganfod yn dilyn cwyn gan aelod o'r cyhoedd i'r adran Safonau Masnach. Yna cynhaliwyd ymweliad i wirio cydymffurfiaeth, lle daeth y Swyddog Safonau Masnach o hyd i BEDWAR AR DDEG o gynhyrchion bwyd yno i'w gwerthu a oedd y tu hwnt i'w dyddiadau defnyddio olaf. 

Y cynhyrchion a ddarganfuwyd oedd:

2 x Profiteroles (cynnyrch 1 - 8 diwrnod ar ôl y dyddiad defnyddio olaf a chynnyrch 2 - 1 diwrnod ar ôl y dyddiad defnyddio olaf) 
2 x Basil Pesto and Mozzarella Pasta (4 diwrnod ar ôl y dyddiad defnyddio olaf) 
1 x Classic Steak Slice Peter's (3 diwrnod ar ôl y dyddiad defnyddio olaf) 
7 x Hot and Spicy Meatballs (3 diwrnod ar ôl y dyddiad defnyddio olaf) 
2 x Smoked Ham (2 ddiwrnod ar ôl y dyddiad defnyddio olaf) 

Pe byddai gwiriadau dyddiad rheolaidd yn cael eu cynnal ddwywaith y dydd fel y cynghorir, byddai'r profiteroles wedi'u methu 16 gwaith, y pasta wedi'i fethu 8 gwaith, y Classic Steak Slice a'r Hot and Spicy Meatballs wedi'u methu 6 gwaith, a'r ham wedi'i fethu 4 gwaith.

Plediodd Mr Singh yn euog i bob cyhuddiad ac ymddiheurodd ar ran y busnes am y digwyddiad, gan ddweud ei fod wedi rhoi mesurau ar waith ers hynny i sicrhau na fydd yn digwydd eto. Rhoddwyd dirwy i'r busnes gwerth dros £1,728 – RHAID i'r cwmni ei thalu'n llawn o fewn 3 mis. Roedd hyn yn cynnwys dirwy o £500, costau gwerth £1,028 a gordal i ddioddefwyr gwerth £200.

Meddai'r Cynghorydd Bob Harris, Aelod o'r Cabinet ar faterion Iechyd y Cyhoedd a Chymunedau: 

“Os yw siop yn gwerthu bwyd yn ein Bwrdeistref Sirol, mae ganddyn nhw gyfrifoldeb i sicrhau bod y nwyddau maen nhw’n eu gwerthu yn ddiogel i gwsmeriaid eu bwyta. 

“Mae dyddiadau defnyddio olaf yn cael eu cymhwyso i eitemau bwyd darfodus gan y gwneuthurwr ac maen nhw'n hanfodol i sicrhau bod cwsmeriaid yn prynu ac yn bwyta eitemau diogel.

“Mae'n annerbyniol bod angen i ddefnyddiwr wirio cynnyrch cyn eu prynu i sicrhau nad ydyn nhw'n mynd yn sâl oherwydd bod busnes yn methu â chynnal yr arferion hylendid bwyd sy'n ofynnol yn gyfreithiol. Byddai rhagofalon i atal y troseddau yma wedi bod yn syml, gan gynnwys gwirio dyddiol a thynnu bwydydd sydd wedi dod i ddiwedd eu hoes oddi ar y silffoedd.

“Mae’r adran Safonau Masnach bwrpasol yn cynnig digon o gyngor a chymorth i fusnesau bwyd yn rheolaidd ac mae’r rhan fwyaf, diolch byth, yn cynnal busnes mewn modd diogel sydd ddim yn rhoi defnyddwyr mewn perygl.

“Rwy’n hyderus bod y cam diweddaraf yma'n anfon neges i fusnesau ar draws y Fwrdeistref Sirol i gael mesurau priodol yn eu lle i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â rheoliadau diogelwch bwyd, neu byddan nhw'n wynebu’r goblygiadau.”

Os oes gan unrhyw un bryderon am fwyd yn cael ei werthu ar ôl y dyddiad defnyddio olaf, ffoniwch 0808 223 1144 i roi gwybod amdano. I gael rhagor o wybodaeth am Reoliadau Diogelwch Bwyd yn Rhondda Cynon Taf ewch i rctcbc.gov.uk/SafonauMasnach   

 
Erthygl flaenorolErthygl Nesaf
Your session will expire in xx.xx. Do you wish to Continue or Log Out
Your session will expire in xx.xx
Continue or Log Out