Siop Bentref yn cael dirwy DROS £1800!
Cafodd perchennog, Ms Ponnuthurai o Hirwaun Village Stores yn Rhondda Cynon Taf ei erlyn gan adran Safonau Masnach Cyngor Rhondda Cynon Taf am werthu bwyd y tu hwnt i'r 'dyddiad defnyddio erbyn'.
O dan Reoliadau Bwyd Cyffredinol 2004, mae’n drosedd torri neu fethu â chydymffurfio â darpariaethau penodol yr UE, gan gynnwys Rheoliad a Gymathwyd rhif 178/2002 sy’n pennu rheolau sy’n ymwneud â gofynion cyfraith bwyd, diogelwch bwyd, cyflwyniad – neu labelu, olrhain, a thynnu'n ôl, adalw a hysbysu. Mae'r Rheoliadau yn nodi fydd bwyd ddim yn cael ei roi ar y farchnad os yw'n anniogel.
Daeth y trosedd i sylw'r adran Safonau Masnach ar ôl iddi dderbyn cwyn. Cafodd ymweliad yna'i gynnal i wirio cydymffurfiaeth. Bryd hynny, daeth y Swyddog Safonau Masnach o hyd i BEDWAR cynnyrch bwyd (brisged cig eidion barbeciw TGI Fridays) oedd ar werth 132 diwrnod y tu hwnt i'w dyddiad 'defnyddio erbyn' ac UN cynnyrch bwyd (adenydd cyw iâr Buffalo TGI Fridays) oedd 153 diwrnod (bron 6 mis) y tu hwnt i'w ddyddiad 'defnyddio erbyn'.
Pe bai'r gwiriadau rheolaidd wedi cael eu cynnal yn unol â'r cyngor a gaiff ei roi, sef bob pythefnos, byddai'r perchennog busnes a'r rhai y mae'n gyfrifol amdanyn nhw heb sylwi ar y cynhyrchion yn ystod 9 ac 11 achos o wirio stoc.
Roedd cynhyrchion bwyd eraill hefyd ar werth y tu hwn i'w dyddiad 'ar ei orau cyn'. Er nad yw'n drosedd arddangos bwyd i'w werthu y tu hwnt i'w ddyddiad 'ar ei orau cyn', mae'n dangos bod dyddiadau cynhyrchion ddim yn cael eu gwirio, a bod stoc ddim yn cael ei chylchdroi yn y siop. Roedd y llaeth dan sylw 10 mis y tu hwnt i'w ddyddiad 'ar ei orau cyn', doedd dim hysbysiad yn rhoi gwybod i'r cwsmer am hyn a doedd pris y llaeth ddim wedi'i ostwng.
Roedd perchennog busnes y safle wedi pledio'n euog i'r drosedd ac roedd rhaid iddo dalu dirwy dros £1800.
Roedd hyn yn cynnwys dirwy o £371, costau gwerth £1302.29, a gordal i ddioddefwyr gwerth £148.
Meddai'r Cynghorydd Bob Harris, Aelod o'r Cabinet ar faterion Iechyd y Cyhoedd a Chymunedau:
“Mae gan fusnesau bwyd yn ein Bwrdeistref Sirol gyfrifoldeb i sicrhau bod y nwyddau y maen nhw'n eu gwerthu yn ddiogel i gwsmeriaid eu bwyta. Mae’n gwbl annerbyniol i fusnes barhau i werthu bwyd sydd wedi darfod, yn enwedig pan fydd y garfan wedi cael gwybod bod hyn yn rhywbeth roedd aelod o’r cyhoedd wedi sylwi arno o’r blaen. Mae’n dangos nid achos ‘untro’ yw hwn ac y gallai digwydd yn rheolaidd a rhoi cwsmeriaid mewn perygl.
“Mae’r adran Safonau Masnach yn cynnig digon o gyngor a chymorth i fusnesau bwyd yn rheolaidd ac mae’r rhan fwyaf, diolch byth, yn cynnal eu busnes mewn modd diogel, sydd ddim yn rhoi defnyddwyr mewn perygl.
“Rwy’n hyderus bod y cam diweddaraf yma'n rhybudd i fusnesau ar draws y Fwrdeistref Sirol - dylen nhw gael mesurau priodol yn eu lle i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â rheoliadau diogelwch bwyd, neu fe fyddan nhw'n cael eu cosbi.”
I gael rhagor o wybodaeth am Reoliadau Diogelwch Bwyd yn Rhondda Cynon Taf ewch i www.rctcbc.gov.uk/SafonauMasnach
llun Sonder Quest ymlaen Unsplash