Yn cynrychioli holl wasanaethau safonau masnach ledled Cymru
Representing all trading standards services across Wales

Ynys Môn yn parhau i roi stop ar fêps anghyfreithlon


Bydd fêps anghyfreithlon, gwerth dros £750,000, yn cael eu dinistrio ar ôl dod o hyd iddynt y tu ôl i gig eidion wedi’i sleisio mewn lori cario bwyd wedi’i rewi.
 
Yn dilyn cais gan Safonau Masnach Cyngor Sir Ynys Môn, ddoe (Dydd Mercher, 15 Ionawr) cyflwynodd Llys Ynadon Caernarfon orchymyn fforffediad i ddinistrio 54,560 o ddyfeisiau fepio electronig a gafodd eu mewnforio drwy Borthladd Caergybi.
 
Cafodd y Llys glywed sut cafodd 10 paled o fêps eu canfod gan swyddogion Llu Ffiniau’r DU ym mis Gorffennaf, 2024, mewn lori cario bwyd wedi’i rewi, wedi’u cuddio y tu ôl i gig eidion wedi’i sleisio. Cafodd y fêps eu hatafaelu gan Safonau Masnach Ynys Môn yn dilyn hynny.
 
Nid oedd y 54,560 o ddyfeisiau, gyda gwerth manwerthu y tu hwnt i £750,000, wedi’u datgan, eu dogfennu ac nid oeddent yn cydymffurfio â deddfwriaeth y DU, gan fynd y tu hwnt i’r uchafswm maint tanc a ganiateir a heb y rhybuddion gofynnol.
 
Roedd St Rose Solutions Ltd, cwmni o High Wycombe, yn honni bod y fêps wedi’u llwytho mewn camgymeriad, a gofynnodd am ddychwelyd y llwyth. Nid oedd unrhyw dystiolaeth i gefnogi hyn. Rhoddodd Safonau Masnach Ynys Môn gyfle i’r cwmni ildio’i hawliau i’r nwyddau er mwyn eu dinistrio, ond gwrthodwyd y cynnig. 
 
Er bod y cwmni wedi cyfathrebu gyda Safonau Masnach i geisio rhyddha’r llwyth, daeth pob cysylltiad i ben pan ddatgelodd swyddogion eu bwriad i geisio fforffediad.
 
Cyflwynodd Llys Ynadon Caernarfon y Gorchymyn Fforffediad, gan roi hawl i Safonau Masnach Ynys Môn ddinistrio’r nwyddau a’u hatal rhag cyrraedd marchnad y DU.
 
Rhoddwyd gorchymyn i St Rose Solutions Ltd dalu costau Cyngor Sir Ynys Môn, gwerth £4,725.82, am gyflwyno’r cais, storio’r nwyddau a’u dinistrio drwy ddefnyddio arbenigwr oherwydd natur wenwynig y ‘sudd nicotin’ a’r batris lithiwm.
 
Mae’r Cynghorydd Nicola Roberts, deilydd portffolio Gwarchod y Cyhoedd, yn croesawu’r dyfarniad. Dywedodd, “Mae’r achos hwn yn amlygu effeithiolrwydd ein gwaith gyda phartneriaid. Rwy’n ddiolchgar i swyddogion Llu Ffiniau’r DU ym Mhorthladd Caergybi a’n swyddogion Safonau Masnach am atal y fêps anghyfreithlon rhag cael eu gwerthu yn y DU.”
 
Erthygl flaenorol
Your session will expire in xx.xx. Do you wish to Continue or Log Out
Your session will expire in xx.xx
Continue or Log Out