Tybaco Anghyfreithlon
Mae gan Safonau Masnach yng Nghymru rôl orfodi i'w chwarae o ran rheoli'r cyflenwad o dybaco anghyfreithlon. Mae hyn yn rhan o gyfrifoldeb amlasiantaeth ehangach i leihau cyfran y farchnad gan gydnabod bod argaeledd cynhyrchion tybaco pris isel yn tanseilio mesurau allweddol eraill i reoli tybaco. Bydd llwyddo i leihau cyfran y farchnad o dybaco anghyfreithlon yn cefnogi amcan strategol Llywodraeth Cymru i Gymru fod yn ddi-fwg erbyn 2030.
Cefnogi’r uchelgais o Gymru ddi-fwg – mynd i’r afael â thybaco anghyfreithlon