Nod Gwasanaeth Safonau Masnach Cymru yw cefnogi busnesau drwy ddarparu cyngor cynhwysfawr, hygyrch a pherthnasol a fydd yn galluogi’r busnesau hynny i gyflawni eu rhwymedigaethau cyfreithiol. Mae ein cyngor a gwaith gorfodi hefyd yn helpu i sicrhau cystadleuaeth deg gan fod gennym ymagwedd gyson at bob busnes.
Darperir cyngor busnes gan eich Gwasanaeth Safonau Masnach lleol. Yn syml, mae angen i chi gysylltu â ni drwy ddefnyddio manylion eich gwasanaeth awdurdod lleol eich hun a nodir ar y dudalen Cysylltu â Ni. Mae cymorth a chyngor manylach ar gael gan rai awdurdodau lleol drwy'r cynllun Prif Awdurdod.
Dewiswch gategori isod i bori tudalennau cyngor cysylltiedig.