Mae buddion cydweithio a chydlynu ar draws y rhanbarth yn cynnwys codi proffil Safonau Masnach.
Mae Safonau Masnach Cymru yn cydlynu cyngor a gorfodi deddfau sy'n llywodraethu'r ffordd y mae nwyddau a gwasanaethau'n cael eu gwerthu, eu rhentu a'u llogi i ddefnyddwyr. Mae swyddogion Safonau Masnach Lleol yn cynnal arolygiadau ac yn monitro neu'n ymchwilio i gwynion.
Rydym yn ymdrechu i weithio gyda busnesau i helpu i sicrhau cydymffurfiaeth ond yn y pen draw, gallwn erlyn y rhai sy'n torri'r gyfraith.
Gyda'i gilydd, mae Safonau Masnach Cymru yn mynd i'r afael ag ystod eang o faterion gan gynnwys; diogelwch cynnyrch, troseddau stepen drws a sgamiau, gwerthu dan oed, nwyddau ffug a masnachu annheg yn ogystal â safonau bwyd a deddfwriaeth bwyd anifeiliaid.
Cliciwch yma i weld ein hadroddiad Effeithiau a Chanlyniadau ar gyfer 2021/22, yn ogystal â'r ffeithlun cysylltiedig
Gweler ein Datganiad Sefyllfa Safonau Masnach Cymru, yma