Yn cynrychioli holl wasanaethau safonau masnach ledled Cymru
Representing all trading standards services across Wales

Cymorth Busnes


Nod Gwasanaeth Safonau Masnach Cymru yw cefnogi busnesau drwy ddarparu cyngor cynhwysfawr, hygyrch a pherthnasol a fydd yn galluogi’r busnesau hynny i gyflawni eu rhwymedigaethau cyfreithiol. Mae ein cyngor a gwaith gorfodi hefyd yn helpu i sicrhau cystadleuaeth deg gan fod gennym ymagwedd gyson at bob busnes.

Darperir cyngor busnes gan eich Gwasanaeth Safonau Masnach lleol. Yn syml, mae angen i chi gysylltu â ni drwy ddefnyddio manylion eich gwasanaeth awdurdod lleol eich hun a nodir ar y dudalen Cysylltu â Ni. Mae cymorth a chyngor manylach ar gael gan rai awdurdodau lleol drwy'r cynllun Prif Awdurdod.

Dewiswch gategori isod i bori tudalennau cyngor cysylltiedig.


Gwasanaethau Cymorth Busnes

Mae Cymru’n dilyn y cynllun Prif Awdurdod cenedlaethol lle mae busnesau’n gallu ffurfio partneriaeth statudol ag un awdurdod lleol, a fydd yn darparu cyngor cadarn a dibynadwy y mae’n rhaid i gynghorau eraill ei ystyried wrth gynnal arolygiadau neu ymdrin ag achosion o ddiffyg cydymffurfio.

Mae ein holl waith cynghori a gorfodi yn cael ei wneud yn unol ag egwyddorion gorfodi cenedlaethol ac yn unol â pholisïau rheoleiddio awdurdodau lleol. Cydnabyddir bod cyflawni swyddogaethau gorfodi mewn modd teg, ymarferol a chyson yn helpu i hyrwyddo economi genedlaethol a lleol ffyniannus.

Your session will expire in xx.xx. Do you wish to Continue or Log Out
Your session will expire in xx.xx
Continue or Log Out